RSPB Cymru Blog

We love Wales!

We love Wales!
Croeso! If you love all things Welsh and wild then this is the group for you. Here you can chat to other RSPB supporters, share your stories and tips, and post photos of wildlife and wild places.

RSPB Cymru Blog

  • Wales, the only country where wintering Greenland White-fronted Geese are not protected by law

    Bitter disappointment at Welsh Government’s refusal to ban shooting white-fronted geese

    To read this blog in Welsh click here

    When a species is declining so quickly that it is under threat of extinction, you’d think the least that those in power could do is to offer it legal protection to prevent it from being shot. Well, that certainly isn’t the case with one species here in Wales.  

    Greenland white-fronted geese are endangered and under serious threat of extinction – the global population is now below 20,000 birds and the wintering population in Wales is at critically low levels. In the late 1990s, over 160 birds returned to their regular wintering site on the Dyfi estuary. That figure was down to only 24 last year with a small number of sightings at one or two other places in north Wales. But, astonishingly, the Welsh Government announced this week (17 August) that it will not implement a total ban on shooting white-fronted geese across Wales. It is not clear how the Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs came to this decision, but what we do know is that she has gone against the advice of Natural Resources Wales, Welsh Government’s own statutory nature conservation and environmental regulator, as well as the opinions of a number of Wales’ conservation organisations and a large numbers of individuals.

    Photo: Andy Hay (rspb-images.com)

    We know this because, in February 2016, the Welsh Government launched a public consultation to gather feedback on various options on promoting the conservation of both races of white-fronted geese in Wales: the endangered Greenland white-fronted goose and the globally more common, but still threatened in the UK, European white-fronted goose. These options ranged from a complete ban on shooting white-fronted geese, to maintaining the current voluntary ban on shooting just the Greenland race on land over which wildfowling clubs have specific rights to shoot.

    RSPB Cymru urged the public to ask the Welsh Government to introduce a total ban on shooting both races of these birds. We’re delighted to say that 75% of people who responded supported an option for a total ban, while only 6% objected to this option. You can see a full breakdown of the responses on this website here.

    But such a large weight of opinion for a total ban was clearly not enough for Welsh Government and it has opted to maintain the current voluntary ban. This now leaves Wales as the only country in the world where families of Greenland white-fronted geese overwinter regularly, where they aren’t legally protected from being shot.

    It goes without saying that we’re bitterly disappointed with this decision, especially as the Welsh Government claims in its response statement that it’s “crucial we do all we can to conserve this iconic bird”! Our Government leads the world on warm words for nature, but we are not seeing this backed up with the conservation action required.

    The world population of these geese is in severe decline and, whilst the voluntary ban has been successful to date where participating wildfowling clubs shoot, voluntary measures cannot protect these birds in flight during migration, or in their movements between roosting and foraging sites, where no voluntary agreement is in place.

    The Welsh Government should now commit to fund not only the additional research it has committed to in its response statement, but also the subsequent conservation action arising from this study, to ensure Wales plays its part in saving these stunning migratory birds  and ensure that they are part of our landscape for generations to come.

  • Cymru yw'r unig wlad yn y byd lle nad oes cyfraith i ddiogelu gwyddau talcenwyn yr Ynys Las sy'n gaeafu yn rheolaidd

    To read this blog in English click here

    Siom aruthrol am benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio gwahardd saethu gwyddau talcenwyn

    Pan mae niferoedd rhywogaeth yn gostwng mor gyflym fel ei bod dan fygythiad o ddiflannu'n llwyr, fe fyddech chi'n meddwl mai'r peth lleiaf fedrai'r rheiny sydd mewn grym ei wneud yw cynnig amddiffyniad cyfreithiol i atal pobol rhag ei saethu. Wel, yn sicr nid yw hyn yn wir am un rhywogaeth yma yng Nghymru.

    Mae gwyddau talcenwyn yr Ynys Las mewn perygl ac o dan fygythiad difrifol o ddiflannu'n llwyr o'r byd 'ma. Mae'r boblogaeth fyd-eang yn is na 20,000 o adar ac mae'r nifer sy'n gaeafu yma yng Nghymru yn argyfyngus o isel. Yn y 1990au hwyr, fe fu dros 160 o adar yn dychwelyd i'w safle gaeafu rheolaidd ar aber yr Afon Dyfi. Mae'r ffigwr hwnnw bellach wedi gostwng i 'mond 24 y llynedd, gyda niferoedd bychain wedi'u gweld mewn un neu ddau o leoedd eraill yng ngogledd Cymru. Ond, yn rhyfeddol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru’r wythnos hon (17 Awst) na fyddai'n gweithredu gwaharddiad llwyr ar saethu gwyddau talcen-wyn ar draws Cymru. Nid yw'n glir sut y daeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i'r penderfyniad hwn, ond yr hyn yr ydym yn ei wybod yw ei bod hi wedi mynd yn groes i gyngor Cyfoeth Naturiol Cymru, corff statudol cadwraeth natur a rheolydd amgylcheddol Llywodraeth Cymru, yn ogystal â barn nifer o sefydliadau cadwraeth Cymru a nifer fawr o unigolion eraill.

    Ffoto: Andy Hay (rspb-images.com)

    Rydym yn gwybod hyn oherwydd, ym mis Chwefror 2016, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus i hel adborth ar amrywiol opsiynau ar sut i hyrwyddo cadwraeth y ddwy hil o wyddau talcenwyn yng Nghymru: gŵydd dalcenwyn yr Ynys Las sydd mewn peryg byd eang, a'r gŵydd dalcenwyn Ewropeaidd sydd yn fwy cyffredin yn rhyngwladol ond sydd o dan fygythiad ar lefel Brydeinig. Roedd yr opsiynau a gynigiwyd yn amrywio o waharddiad llwyr ar saethu gwyddau talcenwyn, i barhau i gynnal y gwaharddiad gwirfoddol sydd mewn grym ar hyn o bryd ar saethu dim ond gwyddau o hil yr Ynys Las ar dir y mae gan glybiau ffowlera hawliau penodol i saethu.

    Anogodd RSPB Cymru y cyhoedd i ofyn i Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwaharddiad llwyr ar saethu'r ddwy hil o'r gwyddau hyn. Rydym wrth ein bodd i ddweud bod 75% o'r rheiny wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad gefnogi'r opsiwn ar gyfer gwaharddiad llwyr, a dim ond 6% wnaeth gwrthwynebu'r opsiwn hwn. Gallwch weld crynodeb llawn o'r ymatebion yma (Saesneg yn unig).

    Ond doedd y pwysau mawr yma am waharddiad llwyr yn amlwg ddim yn ddigon i Lywodraeth Cymru, a dewisodd yn hytrach i gadw'r gwaharddiad gwirfoddol sydd mewn grym ar hyn o bryd. Mae hyn bellach yn gadael Cymru fel yr unig wlad yn y byd lle mae teuluoedd o wyddau talcenwyn yr Ynys Las yn gaeafu yn rheolaidd, lle nad ydynt yn cael eu diogelu gan y gyfraith rhag cael ei saethu.

    Mae'n amlwg ein bod ni ‘di cael siom aruthrol gyda'r penderfyniad hwn, yn enwedig gan fod Llywodraeth Cymru yn hawlio yn ei datganiad ei fod yn “hanfodol ein bod yn gwneud popeth y gallwn i ddiogelu'r aderyn eiconig hwn”! Mae ein Llywodraeth ar flaen y gad gyda'i geiriau teg am fyd natur, ond tydy'n nhw ddim yn cyflawni ei dyletswydd trwy gyflawni'r camau cadwraeth sydd eu hangen.

    Mae poblogaeth y byd o'r gwyddau hyn yn gostwng yn ddifrifol ac, er bod y gwaharddiad gwirfoddol presennol wedi bod yn llwyddiannus hyd yma lle mae'r clybiau ffowlera yn saethu, ni all fesurau gwirfoddol amddiffyn yr adar hyn yn y llefydd hynny lle nad oes cytundeb gwirfoddol yn ei le: wrth iddyn nhw hedfan wrth fudo, neu yn ystod y cyfnodau hynny pan maen nhw'n symud rhwng eu safleoedd clwydo a chwilota am fwyd.

    Dylai Llywodraeth Cymru yn awr ymrwymo i ariannu nid yn unig yr ymchwil ychwanegol y mae wedi ymrwymo iddo yn ei datganiad, ond hefyd i weithredu’r camau cadwraethol dilynol sy'n deillio o'r astudiaeth hon, er mwyn sicrhau bod Cymru yn chwarae ei rhan wrth achub yr adar mudol trawiadol yma a sicrhau eu bod yn rhan o'n tirlun am genedlaethau i ddod.

  • Drwy Lygaid yr Anifail

    To read this blog un English, please click here.

    Ydych chi erioed wedi meddwl sut beth yw bod yn anifail yn y goedwig? I hedfan fel tylluan, neidio fel llyffant neu symud eich adenydd fel gwas y neidr? Wel, roedd ymwelwyr yn gallu gwneud hyn yn union yng nghalon Parc Bute yng Nghaerdydd y mis Gorffennaf hwn.

    Yn dilyn llwyddiant TAPE ym Mharc Bute mis Awst diwethaf – a welodd gwe pryf cop anferth yn cael ei hadeiladu yn y coed – daeth prosiect Rhoi Cartref i Natur yng Nghaerdydd â’r gwyllt yn fyw drwy fenter rithwir, gyda’r enw priodol, Drwy Lygaid yr Anifail.

    Wrth weithio gyda chrewyr, Marshmallow Laser Feast a’r sefydliad celfyddydol, Migrations, gwahoddwyd y cyhoedd i brofi’r byd o’r newydd drwy brofiad rhithwir 360 gradd yng nghanol y coed.

    Drwy gadw eu traed yn gadarn ar lawr y goedwig, roedd ymwelwyr yn gwisgo pensetiau rhithwir arbenigol - wedi’u cuddliwio’n ofalus yn y coed gan gen a mwsogl.  Aethpwyd â hwy wedyn ar siwrnai aml-synhwyrol drwy lygaid gwybedyn, gwas y neidr, llyffant a thylluan sy’n frodorol i Barc Bute.  Law yn llaw â hyn cafodd ymwelwyr y cyfle i fwynhau gweithgareddau hwyl i’r teulu, y cyfan gyda naws digidol - o helfeydd bywyd gwyllt yn y coedydd at saffaris natur yn y gwyllt.

    Lluniau: Martyn Poynor

    Roedd Drwy Lygaid yr Anifail yn ddigwyddiad hollol rad ac am ddim a chafodd ei redeg gan 25 o wirfoddolwyr eithriadol o ymroddedig - y cyfan yn rhoddi 800 awr werthfawr o’u hamser er mwyn helpu byd natur yr haf hwn.  Darparodd y gwirfoddolwyr eiliad wirioneddol hudol i dros 2,800 o ymwelwyr ymysg y coed, gan eu trochi ym mywyd gwyllt coetir y parc.

    Er bod y fenter wedi dod i ben ar 4 Awst, gall Drwy Lygaid yr Anifail barhau i fyw yn awr.  Drwy weithio gyda Chyfeillion Parc Bute, byddwn yn gwrthbwyso’r ôl-troed carbon a ddefnyddiwyd gyda’r fenter drwy roi cymorth i fyd natur a phlannu coed prydferth yn y parc.

    Rydym ni’n ffodus o gael parciau a mannau gwyrdd gwych yng Nghaerdydd, ond ambell waith gall fod yn rhy hawdd i fyw mewn dinas heb feddwl yn iawn am y byd naturiol o’n cwmpas.  Roedd Drwy Lygaid yr Anifail yn caniatáu ymwelwyr i uniaethu â’r bywyd gwyllt ar eu stepen drws o safbwynt hollol newydd haf yma, gan ychwanegu at y rhyfeddod y mae’r byd naturiol yn ei greu.

    Rydym ni wastad yn edrych am wirfoddolwyr newydd i ymuno â theulu Rhoi Cartref i Natur yng Nghaerdydd, ac felly os ydych chi’n dymuno bod yn rhan o’r tîm, anfonwch ebost at cymru@rspb.org.uk os gwelwch yn dda.

    “Anhygoel, da, hwyl, rhyfeddol”
    "Roedd y teimlad yn wych ac roedd gallu gweld y byd fel anifail yn gwneud i chi sylwi pwysigrwydd ein hanifeiliaid"
    "Diddorol a chofiadwy"
    "Byd rhyfeddol arall"
    "Yn hollol wych a rhoddodd y cyfle i mi brofi rhywbeth hollol newydd"


    (Uchod: rhai o’r sylwadau gan aelodau o’r cyhoedd a fu’n cymryd rhan)