Places to visit

Do you love our nature reserves? Share your thoughts with the community. Or if you're thinking about visiting and would like to find out more, ask away!

April, 2010

Glaslyn osprey diary

Follow the fortunes of a pair of ospreys breeding near Porthmadog in north Wales.
  • Glaslyn osprey diary

    More photos from Andy / Rhagor o luniau o Andy

    • 1 Comments

    Here are some of Andy’s photographer from his stint at the sit eon 21 April, we hope to have him back again when the eggs have hatched and the chicks can be seen.If you wan to see more of Andy’s work please visit www.andyrouse.co.uk

    Dyma ragor o luniau o Andy Rouse ar ôl ei ymweliad â’r safle ar 21 Ebrill, rydym yn gobeithio y bydd Andy yn tynnu rhagor o luniau pan fydd yr wyau wedi deor a pan allwn weld y cywion. Os ydych am weld rhagor o waith Andy ewch i’w wefan www.andyrouse.co.uk

     

  • Glaslyn osprey diary

    Hope for neighbours? / Gobaith am gymdogion?

    • 1 Comments

    Good news as the new male Osprey in the area settles on a nearby platform, put in place by the Friends of the Ospreys in 2009. The very white male was seen swooping over the Glaslyn nest over the weekend. The female showed only a slight bit of annoyance as she stayed firmly on the three eggs. The male was above her perched on the trunk flapping his wings as a display to put off competition before chasing him over the watchers at the Pont Croesor visitor centre. A big thank you to Friends of the Ospreys for their hard work with the platforms. Why not try your hand at nest building at the Community weekend 22nd - 23rd May! There will be fun for everyone.

    Newyddion da wrth i geiliog gwalch y pysgod newydd setlo yn yr ardal ac ar platform a gafodd ei sefydlu gan Ffrindiau’r gweilch y pysgod yn 2009. Mae’r ceiliog gwyn wedi ei weld yn hedfan dros y nyth ar y penwythnos. Roedd yr iâr gwalch y pysgod wedi ei chythruddo tamaid ond fe arhosodd ar y nyth ac ar yr wyau. Roedd y ceiliog gwalch y pysgod yn sefyll wrth ei phen, ac yn fflapio ei adenydd i gadw’r ceiliog arall i ffwrdd, cyn ei erlid ymaith dros wylwyr ym Mhont Croesor. Diolch mawr i Ffrindiau’r gweilch y pysgod am eu gwaith caled, a phan na wnewch chi geisio adeiladu nyth gwalch y pysgod yn ein Penwythnos Cymunedol ar 22-23 Mai? Bydd hwyl i bawb.

     

  • Glaslyn osprey diary

    Lots to see / Digon i'w weld

    • 0 Comments

    Mind your heads in the Glaslyn Osprey hide, the swallows are back and building, along with the cuckoo which has been heard in the valley this week - it’s a sign of summer arriving. On Sunday the grass got the splash of rain its been waiting for, and we’re now hoping for a spurt in greenery and seasonal flowers, and with them more bees and butterflies. A third Osprey caused excitement yesterday as it soared over the visitor centre, get your binoculars out and look out for a ring! It would be great to think a Glaslyn born osprey had returned to the area. The brown hares have been seen running in the fields, their extra long legs giving them fantastic bursts of speed. I’ll do my best to catch up and get a photo!

    Meindiwch eich pen pan ewch chi i’r guddfan gwylio ym Mhont Croesor, mae’r gwennoliaid yn ôl ac wedi adeiladau eu nyth, cafodd y gog ei glywed yn canu yn y cwm wythnos yma hefyd - arwydd fod yr haf ar ei ffordd. Ar ddydd Sul cafodd y glaswellt y glaw oedd ei angen, a gobeithio cawn flodau a gwyrddni ar ei ôl, gobeithiwn hefyd weld mwy o wenyn a gloÿnnod byw. Cafodd trydydd gwalch y pysgod ei weld ddoe yn hedfan o gwmpas y canolfan, edrychwch trwy eich binocwlar i weld am fodrwy! Byddai’n dda meddwl fod gwalch y pysgod genedigol o Laslyn wedi dod yn ei ôl. Mae’r ysgyfarnogod brown i’w gweld yn y caeau cyfagos, fe wna i fy ngorau i dal lan efo nhw i gael llun!

    Ceri

  • Glaslyn osprey diary

    Photo of the day / Llun y dydd

    • 2 Comments

     

    The Ospreys are sitting on the eggs in beautiful sunshine, mouths open to cool down. With fish coming in at roughly two a day the birds look like a very happy couple. The Heron is also a tireless fisherman and frequently stops off at Pont Croesor for a wriggly eel or two. It was great meeting students from Bangor University here to learn about the project. It’s great to meet people who take such an interest in working to help our stunning countryside. Kate and myself found ourselves acting as chicks (see photo). We can’t wait for the real things. 37 days is the stated incubation period. So we hope the eggs will begin to stir mid may!


    Mae’r gweilch y pysgod yn eistedd ar eu hwyau mewn heulwen braf a’u cegau ar agor i oeri. Efo pysgod yn dod i’r nyth dwywaith y dydd, mae’r adar i’w gweld yn hapus iawn. Mae’r crëyr glas yn bysgotwr diflino hefyd, ac yn stopio nawr ac yn y man ger Pont Croesor i dal llysywen neu ddau. Roedd yn dda cyfarfod myfyrwyr o Brifysgol Bangor a ddaeth yma i ddysgu am y project. Mae’n dda cwrdd â phobl sydd efo gymaint o ddiddordeb yng nghefn gwlad a natur. Roedd Kate  a minnau wedi cael ein dal yn actio fel cywion (gweler llun), ac mewn 37 diwrnod rydyn ni’n gobeithio y cawn ni’r peth go iawn. Gobeithio bydd yr wyau yn dechrau symud tua chanol Mai!


    Ceri

  • Glaslyn osprey diary

    New hide / Cuddfan newydd

    • 1 Comments
    Another sunny day at Pont Croesor. Clouds of swallows, house martins and sand martins have been swirling overhead, and common sandpiper and a white wagtail were running across the sand banks. Lapwings have been seen doing their cartwheel flight across the river. Our resident whooper swan was joined by a second today. Brown hares have also been seen in the field with the wheatears, including the Greenland wheatear. Greylag geese have been paddling up and down the river in front of the new riverside hide – see image above (thanks Gary for the photo).

    Remember to book ahead for the Dawn Chorus Walk on Sunday 2 May.
    Diwrnod heulog arall ym Mhont Croesor. Gwelwyd cymylau o wenoliaid, gwenoliaid y bondo a gwennoliaid y glennydd yn hedfan uwchben, a phibydd y dorlan a siglen wen yn rhedeg ar draws y banciau tywod. Gwelwyd cornchwiglod yn troi wrth hedfan wrth ben yr afon. Mae yna alarch y Gogledd arall wedi ymuno efo ein halarch y Gogledd preswyl ni. Mae ysgyfarnogod brown a tinwennod y garn wedi eu gweld yn y cae cyfagos. Gwelwyd gwyddau gwyllt yn padlo lan a lawr yr afon o flaen y cydfan newydd - gweler y llun uchod (diolch i Gary am y llun).

    Cofiwch fwcio o flaen llaw am Daith Côr y Wawr ar ddydd Sul 2 Mai. 
Page 1 of 3 (11 items) 123