Places to visit

Do you love our nature reserves? Share your thoughts with the community. Or if you're thinking about visiting and would like to find out more, ask away!

May, 2010

Glaslyn osprey diary

Follow the fortunes of a pair of ospreys breeding near Porthmadog in north Wales.
  • Glaslyn osprey diary

    Growing fast / Tyfu'n gyflym

    • 0 Comments

    More visits from a male osprey this week, nothing the Glaslyn pair can’t deal with. The chicks are growing so fast, but they are easy to tell apart even if there is only a few days difference between them. The eldest two are getting into their darker plumage, the youngest is still as cute as ever, in downy white with a mini black mask across its eyes. In only a month and a half, the chicks will be similar sizes to their parents, and starting to stretch their beautifully marked wings for their first flight. The swallow is still sitting tight on the nest, we should be hearing peeps from the nest any day now. The swans with their cygnets are looking for crumbs daily, and a family of Canada geese with nine chicks ferry up and down the river.
    Remember to pop by the Coffee Morning on Tuesday from 10am to 12pm, for some peanuts and seeds, and teas and cakes for yourself.

    Daeth gwalch y pysgod gwryw arall i ymweld ar safle wythnos yma, ond mae par Glaslyn yn delio efo’r ymwelydd yn dda. Mae’r cywion yn tyfu’n gyflym, i feddwl mai dim ond diwrnod neu ddau sydd rhwng y tri mae’n rhwydd dweud y gwahaniaeth rhyngddynt. Mae’r ddau henaf yn dechrau dangos eu phlu tywyll ac mae’r cyw ifengaf yn ddel iawn, a dal yn dangos ei manblu, efo masg du bach o gwmpas ei lygaid.

    Mewn tua mis a hanner bydd y cywion tua’r’ un maint a’u rhieni ac yn dechrau ymestyn eu hadenydd ar gyfer eu hediad cyntaf. Mae’r wennol dal i eistedd ar ei wyau, a ddylwn ni glywed gwichian cyn bo hir gobeithio. Mae’r elyrch efo’u cywion yn edrych am fanion yn ddyddiol, ac mae 'na wyddau Canada a naw cyw yn nofio i fyny ac i lawr yr afon yn gyson. Cofiwch ddod i’r Bore Coffi ar ddydd Mawrth am 10yb tan 12yp, am gnau a hadau ar gyfer yr adar, a the a chacennau ar eich cyfer chi.

  • Glaslyn osprey diary

    Community weekend success / Penwythnos gymunedol bythgofiadwy

    • 1 Comments

    First of all a BIG THANK YOU to EVERYONE who came to the Community weekend! Visitors, helpers and stallholders – together we raised £889 for the Glaslyn osprey project!
    The money raised will be helping to make nature a stronger and bigger part of our lives in Wales, and ensuring species recovery projects and conservation projects continue their important work.
    We will be holding another Community weekend on Saturday 21 and Sunday 22 August, if you would like to be involved please contact Ceri Thomas on 077 399 21 449.
    Thank you again for all your hard work and support.

    Diolch yn FAWR IAWN i bawb wnaeth gymryd rhan yn y Penwythnos Cymunedol! Gwnaeth yr ymwelwyr, gwirfoddolwyr a stondinau codi £889 ar gyfer project gwalch y pysgod Glaslyn.
    Bydd yr arian yn helpu gwneud natur yn rhan o’n bywydau yng Nghymru, ac yn sicrhau fod projectau adferiad rhywogaethau a phrojectau cadwraethol yn parhau i neud eu gwaith pwysig.
    Bydd Penwythnos Cymunedol arall yn digwydd ar ddydd Sadwrn 21 a dydd Sul 22 Awst, os ydych am gymryd rhan cysylltwch â Ceri Thomas ar 077 399 21 449.
    Diolch et o am eich holl gwaith caled a cefnogaeth.

  • Glaslyn osprey diary

    What a day! Dyna ddiwrnod!

    • 0 Comments

    The hottest weekend of the year so far and everyone enjoying the breeze along the Glaslyn River during the fantastic Community Weekend. The swans and their cygnets came for a look as Knights battled in the arena, wooden ospreys were carved and bargains were bought in the marquees. To make a great day out even better a third osprey displayed its fishing technique right in front of the visitors in the river before the hide! WOW! Thank you to everyone who turned up!

    Dyna benwythnos boethaf eto blwyddyn yma, ac roedd pawb yn mwynhau'r awel o’r afon Glaslyn yn ystod ein Penwythnos Cymunedol. Daeth yr elyrch a’u cywion i wylio’r marchogion wrth Iddyn nhw ymladd, cafodd cerfluniau pren o weilch y pysgod eu cerfio a llawer o fargeinion eu prynu. I wneud diwrnod grêt yn ddiwrnod bythgofiadwy, gwelwyd trydydd gwalch y pysgod yn bwydo o flaen y guddfan wylio - WOW! Diolch i bawb wnaeth troi i fyny!

  • Glaslyn osprey diary

    Third chick is spotted / Trydydd cyw wedi ei weld

    • 1 Comments

    The Glaslyn osprey pair’s third chick started to hatch at 15.04 today (Wednesday 19 May) and is fighting its way into the world as we speak. All three chicks will remain in the nest until the second week in July – when they will stretch their wings as they learn to fly.

    The site has a live video link from the nest feeding into a TV screen in the visitor centre near Porthmadog.  This allows visitors to see live footage of the osprey family and can be viewed online via the BBC website http://www.bbc.co.uk/wales/northwest/sites/webcams/pages/ospreys.shtml

    Dechreuodd trydydd cyw pâr Glaslyn o weilch y pysgod ddeor brynhawn heddiw am 15.04 (dydd Mercher 19 Mai) ac mae’n brwydro i ddod o’r wy yr eiliad hon. Bydd y tri chyw’n aros yn y nyth tan ail wythnos mis Gorffennaf.  Yna byddant yn ymestyn eu hadenydd ac yn ymarfer ar gyfer hedfan o’r nyth.

    Ar y safle mae cyswllt fideo byw o’r nyth yn bwydo i mewn i sgrîn deledu yn y ganolfan ymwelwyr.  Mae ymwelwyr felly’n gallu gweld lluniau manwl o deulu’r gwalch y pysgod a gellir eu gwylio ar lein hefyd ar wefan y BBC drwy fynd i
    http://www.bbc.co.uk/wales/northwest/sites/webcams/pages/ospreys.shtml

  • Glaslyn osprey diary

    Two bundles of joy / Dau gyw bach

    • 5 Comments

    The Glaslyn osprey pair’s first chick hatched on Saturday morning (15 May) at 11.27am, watched by a crowd of eager onlookers in the visitor centre. The second egg hatched this morning (Monday 17 May) at 8.05am, this time with just Project Officer Geraint Williams and volunteer Margaret Williams as an audience.

    On Saturday the mother osprey was very agitated a minute before the egg hatched and then the egg literally split in two and the chick emerged!  When the second chick hatched, the mother was seen looking down and appeared to be listening to the egg beforehand.  While she was feeding the first chick the second head appeared!

    The remaining egg will continue to be incubated by the adult birds and if everything goes to plan we hope the third egg will hatch on Wednesday.  We will not know if they are male or female until they are ringed at four weeks old.

    The new arrivals are both completely bald and very tiny, as you would expect from chicks just a few hours old.  Their eyes have opened fully and they are feeding well, and the father osprey is catching fish locally and bringing them back to the nest.

    So, if you’re visiting over the next few days you’ll be among the first to see the new family!

    Daeth cyw bach cyntaf pâr y Glaslyn o weilch y pysgod o’r ŵy ar fore Sadwrn (15 Mai) am 11.27 y bore er mawr lawenydd i wylwyr brwdfrydig yn y ganolfan ymwelwyr. Daeth yr ail gyw o’r ŵy’r bore yma (Llun 17 Mai) am 8.05 y bore, y tro yma gyda dim ond Swyddog y Project Geraint Williams a’r gwirfoddolwr Margaret Williams fel cynulleidfa.

    Ar ddydd Sadwrn roedd yr iâr gwalch y pysgod wedi cyffroi’n llwyr dim ond munud cyn i’r ŵy ddeor; yna holltodd yr ŵy’n ddau a daeth y cyw i’r golwg! Wrth i’r ail ŵy ddeor, gwelwyd yr iâr yn edrych i lawr fel pe bai’n gwrando ar y cyw yn yr ŵy.  Wrth iddi fwydo’r cyw cyntaf ymddangosodd yr ail ben! 

    Mae’r ddau oedolyn yn parhau i eistedd ar y trydydd ŵy yn eu tro ac, os aiff pob dim yn iawn, gobeithiwn y bydd yn deor ar ddydd Mercher.  Ni fyddwn yn gwybod ai ceiliog neu iâr yw’r cywion nes byddwn yn eu modrwyo’n bedair wythnos oed.

    Mae’r ddau gyw’n hollol foel ac yn fach iawn, fel y byddech yn ei ddisgwyl gan nad ydynt ond ychydig o oriau oed.  Mae eu llygaid wedi agor ac maent yn bwydo’n dda.  Mae’r ceiliog yn dal pysgod yn lleol ac yn dod â nhw’n ôl i’r nyth.

    Felly os ydych yn ymweld â’r safle gwylio ar y Traeth Mawr ger Porthmadog dros y dyddiau nesaf byddwch yn rhai o’r pobl cyntaf i weld y teulu newydd!

Page 1 of 2 (8 items) 12