Fersiwn Gymraeg islaw / Welsh language version below
The three chicks are growing fast, probably due to all the live fish dad is bringing into the nest! The female has weathered the week well despite the wind and the rain, even though she has had trouble getting all the chicks underneath her, as they are so big.
Last Friday was a remarkable day as there was another Osprey mobbing the nest several times, with many dramatic displays when our male and then the female was dive-bombing the other to chase it off. The chicks were finally able to enjoy some good weather and they started to explore the nest – even moving some sticks around. The parent birds has quite a time trying to improve the ‘wall’ around the edge of the nest for the safety of the youngsters.
Many and varied are the other birds and animals that have visited the site, including the whooper swan, merganser and quite a large hare. The family of house sparrows who have taken up residence in the hide have been very busy and voluble.
Mae’r tri chyw yn tyfu’n gyflym, mwy na thebyg oherwydd y nifer fawr o bysgod byw mae dad yn dod ag ef i’r nyth! Mae’r iâr wedi dod trwy’r wythnos yn dda er gwaethaf y gwynt a’r glaw, a’r ffaith ei bod hi wedi ei chael hi’n anodd i gael y cywion oddi tani gan eu bod nhw mor fawr.
Roedd dydd Gwener diwethaf yn ddiwrnod rhyfeddol gan fod Gwalch y Pysgod arall wedi mobio’r nyth sawl gwaith, gan arddangos yn ddramatig pan oedd ein ceiliog, ac yna’r iâr, yn plymfomio’r llall i’w hel o ‘na. Cafodd y cywion gyfle, o’r diwedd, i fwynhau ‘chydig o dywydd da, ac fe gychwynon nhw archwilio’r nyth – gan symud ambell i frigyn hyd yn oed. Ac fe gafodd y rhieni dipyn o waith i’w wneud wrth geisio gwella’r ‘wal’ o amgylch ochr y nyth er mwyn diogeli’r rhai ifainc.
Mae ‘na niferoedd ac amrywiaeth da o adar ac anifeiliaid ‘di ymweld â’r safle, gan gynnwys alarch y gogledd, hwyaden ddanheddog fronrudd a ‘sgwarnog reit fawr. Mae’r teulu o adar y to sydd wedi ymgartefi yn y guddfan ‘di bod yn brysur ac yn ‘parablu’ byth a hefyd.
Fersiwn Gymraeg islaw / Welsh language version below.
After a long night the third chick finally emerged at 6.07a.m. last Saturday morning. Ever since the male has been extremely busy bringing lots of fish back to the nest and even taking part in the feeding of the chicks especially when he thought that the smallest was not getting its fair share!
The weather has not been able to make up its mind what it wants to do with one day being beautiful sunshine and another torrential rain, posing problems for the female as she did not want to get up off the chicks to feed them.
Another Osprey was chased away from the vicinity of the nest on Tuesday and again later in the week, but this did not seem to worry the female in any way. She appears to be moulting as she has twice disappeared for a few minutes and come back wet as though she has been having a bit of a dip.
We hear that our 2008 chick YC has been making a bit of a name for himself in the area and even ventured as far south as Dyfi.
Amongst our other regular visitors a whimbrel was seen at the site this week but it was also spotted by a passing peregrine.
Wedi noson hir fe gyrrhaeddodd y trydydd cyw am 6.07 fore Sadwrn diwethaf. Byth ers hynny, mae’r ceiliog ‘di bod yn ofnadwy o brysur yn dod â digonedd o bysgod yn ôl i’r nyth, ac hyd yn oed rhannu’r cyfrifoldeb o fwydo’r cywion o bryd i’w gilydd – yn enwedig pan oedd o’n meddwl nad oedd yr un lleiaf yn cael chwarae teg!
Mae’r tywydd ‘di bod chydig bach yn anwadal yma. Ni ‘di bod yn mwynhau naill ai heulwen braf neu dioddef hi’n tywallt y glaw. Fe achosodd y glaw broblemau i’r iâr gan nad oedd hi am godi oddi ar y cywion i’w bwydo nhw.
Cafodd Gwalch y Pysgod arall ei hel o gyffiniau’r nyth ar ddydd Mawrth ac eto yn ddiweddarach yn yr wythnos. Ond doedd yr iâr ddim yn ymddangos fel petai hi’n poeni o gwbl. Mae’n ymddangos ei bod hi’n bwrw ei plu am ei bod hi ‘di diflannu ddwywaith gan ddychwelyd yn wlyb domen, fel pe bai hi ‘di bod am drochfa.
Mae’n debyg bod 'YC', ein cyw o 2008, yn ennill tipyn o glod i’w hun yn yr ardal, ac mae o ‘di mentro mor bell i’r de a’r Dyfi.
Ymhlith ein hymwelwyr rheolaidd, mae coelgylfinir wedi’i weld ar y safle yn ystod yr wythnos, ond cafodd ei weld gan hebog tramor oedd yn pasio heibio hefyd.
Record breaking Chick One is now confirmed as the earliest Osprey to hatch in the UK, at 6.18pm on 9th May. It was followed on 11th May at 3.00 am by a younger sibling and at the time of writing the third chick was forcing its way out of the shell of the egg ( 6.30p.m. Friday).
We have been extremely lucky to have had 3 chicks from the Glaslyn nest these last three years.
These chicks have survived curious crows taunting the camera, squirrels on the nest and even an older brother from a previous year barging through the nest.
On top of this the weather has been Biblical! The first chick prising its way out of the shell to thunder, lightning and hailstones.
The male has been a star bringing lots of trout and bass to the nest and he has now picked up the pace with even more! He was also incubating when the first chick hatched and jumped up and down with every twitch. Exciting stuff and more to come as we watch the young grow and (hopefully) strengthen with every day.
Mae’r cyw cyntaf, a wnaeth ddeor am 6.18yh ar Fai 9fed, bellach wedi ei gadarhau fel y Gwalch y Pysgod cynharaf erioed i ddeor ym Mhrydain. Fe ddilynodd yr ail gyw am 3.00yb ar Fai 11eg ac, wrth i ni ysgrifennu hwn (6.30yh ar Fai 13eg), mae’r trydydd cyw yn gwthio’i hun allan o’r wy.
Da ni ‘di bod yn lwcus iawn i gael 3 chyw o’r nyth yma yn Glaslyn dros y tair mlynedd diwethaf.
Mae’r cywion yma wedi gorfod ymdopi â brain busneslyd yn bygwth y camera, wiwerod ar y nyth, ac hyd yn oed brawd mawr o flwyddyn gynharach yn hyrddio trwy’r nyth.
I goroni’r cyfan mae’r tywydd ‘di bod yn Feiblaidd! Fe wasgodd y cyw cyntaf ei hun o’r wy i gyfeiliant mellt, taranau a chenllysg!
Mae ceiliog ‘di bod yn seren. Eisoes mae ‘di bod yn dychwelyd i’r nyth â llwyth o frithyllod a drainogiaid y môr, ond mae o nawr wedi gorfod prysuo fwy fyth! Fo hefyd oedd yn gori’r wyau pan gyrhaeddod y cyw cyntaf, ac fe fuodd o’n neidio i fyny ac i lawr â phob gwingiad bach gan y bychan. Cyfnod cyffrous iawn, â mwy i ddilyn wrth i ni wylio’r rhai bach yn tyfu, a gobeithio yn cryfhau, o ddydd i ddydd.
With the high winds this week the nest has been strengthened by the large branches that the Osprey have been bringing in. There has been frequent passing of other Osprey over the nest which have caused the female to be a bit edgy, one of them may even be YC the 2008 chick who has been bothering other Osprey on a nearby platform.
The female has been chasing off buzzards, peregrines and crows and the male has been staying close to the nest during the day but has been fishing quite late into the evening as late as 9.00p.m. on Friday.
Both birds have been busy decorating the nest with fresh green oak leaves and russety lichens.
No sign of a chick yet, but we are keeping our fingers crossed for the weekend arrival.
The Bar-headed Geese have frequently been paddling up the river along with the resident Whooper Swans. There has also been many sightings of Hares in the fields along with Curlew, Sandpiper and Lapwing
Yn sgil gwyntoedd cryfion yr wythnos hon mae’r Gweilch y Pysgod ‘di bod yn cryfhau’r nyth â rhagor o frigau. Mae nifer o Weilch eraill ‘di bod yn aflonyddu’r iâr trwy hedfan uwchben y nyth yn ddiweddar. Mae’n bosib mai ‘YC’, cyw 2008, oedd un ohonyn nhw. Mae hwnnw wedi bod yn creu helynt i Walch arall ar blatfform cyfagos.
Ma’r iâr ‘di bod yn erlid sawl boda, hebog tramor a bran, tra bod y ceiliog ‘di bod ‘di aros yn agos i’r nyth yn ystod y dydd ond yn mynd i bysgota yn reit hwyr – fuodd o wrthi mor hwyr a 9 o’r gloch nos Wener diwethaf.
Mae’r ddau aderyn ‘di bod yn brysur hefyd yn addurno’r nyth â dail derw ffres a chen.
Does dim golwg o’r cyw cyntaf eto, ein gobaith yw y daw o dros y penwythnos.
Mae’r Gwyddau Pen-frith wedi eu gweld yn padlo i fyny’r afon yn rheolaidd yng nghwmni Elyrch y Gogledd sydd wedi aros yma efo ni. Da ni hefyd wedi gweld ambell i ‘Sgwarnog yn caeau gerllaw yn ogystal â sawl Gylfinir, Pibydd y Dorlan a Chornchwiglen.
The weather this week has brought everyone out and there has been some wonderful sightings of the Glaslyn Male flying over the site on his way to and from fishing at Porthmadog. There has been several sightings yet again of other Osprey in the valley so we are hoping that they are staying with us for the season now.
We will be watching the nest with interest over the next few days as we anticipate the first egg to be hatched very soon.
The Curlew has been very active and vocal over the site this week.
Other visitors to the site include: a Sparrow hawk which caused some consternation amongst our small birds at the site feeding station, Bar-headed Goose, Linnets, Goshawk and Lapwings to name just a few!
Mae'r tywydd unwaith eto wedi bod yn fendigedig yma sydd yn golygu bod nifer fawr o bobl wedi eu denu i'r safle. Da ni 'di mwynhau golygfeydd gwych o'r Ceiliog yn hedfan yn ol ac ymlaen dros ein pennau ar ei ffordd i bysgota ym Mhorthmadog. Ac unwaith eto, nae 'na nifer o bobol wedi gweld Gwalch y Pysgod arall yn y dyffryn, a'r gobaith yw y byd hwnnw yn arps efo ni am y tymor.
Fe fyddwn ni'n cadw llygad barcud ar y nyth dros y dyddiau nesaf gan ein bod i'n rhagweld y bydd yr wy cyntaf yn deor unrhyw funud.
Mae'r Gylfinir wedi bod yn fywiog ac yn swnllyd iawn dros y safle yn ystod yr wythnos.
Ymwelwyr eraill a'r safle yn cynnwys: Gwalch Glas sydd wedi bod yn dychryn yr adar bychain lleol; ei frawd mawr y Gwalch Marth, Llinosiaid a Chornchwiglod.