Places to visit

Do you love our nature reserves? Share your thoughts with the community. Or if you're thinking about visiting and would like to find out more, ask away!

Ringing at Glaslyn / Modrwyo yn Glaslyn

Glaslyn osprey diary

Follow the fortunes of a pair of ospreys breeding near Porthmadog in north Wales.

Ringing at Glaslyn / Modrwyo yn Glaslyn

  • Comments 0

Fersiwn Gymraeg islaw / Welsh language version below

Ringing Week this week.  Our 2011 chicks are now adorned with blue Darvic rings with numbers 77,78 and 79 on them.  We still need to confirm the sexes but with a chunky oldest chick (77), and the middle (78) and youngest (79) almost the same size hints to a girl, boy, girl!  After a brief adventure of just an hour the chicks were back on the nest with the female returning 7 minutes after the ringers left.

The nestlings (you can’t call them chicks anymore) are all 5 weeks old.  When fish arrives they are impatient to try to tackle them themselves.  77 & 78 are even flapping and jumping and getting a lot stronger.  The season has flown by and it won’t be long before the youngsters do the same.

Other Osprey and a Herring Gull have been bothering our family all this week.  When the parents are protecting the young they have to wait for a fish, so numbers have been anything from 2 to 6 during the day! Yesterday (Saturday) the male brought 6 fish in within the space of 4 hours. Perhaps he is anticipating bad fishing weather today!

 

Fe fuom ni’n modrwyo yn ystod yr wythnos. Mae gan gywion 2011 fodrwyon Darvic glas gyda’r rhifau 77,78 a 79 arnyn nhw. Mae’n dal rhaid i ni gadarnhau rhyw y cywion ond o olwg trwm y cyw hynaf (77), a’r ffaith bod y cyw canol (78) a’r cyw ieuengaf (79) bron yr un maint mae’n awgrymu mai merch, bachgen, merch sydd gamddom ni! Ar ôl antur fer awr o hyd roedd y cywion nôl yn y nyth, gyda’r iâr yn dychwelyd atyn nhw o fewn 7 munud i’r modrwywyr adael.

Mae pob un o’r Gweilch ifainc (mae’n anodd eu galw’n gywion bellach) yn 5 wythnos oed. Pan mae pysgodyn yn cyrraedd y nyth mae’r tri yn ysu i fynd i’r afael ag ef eu hunain. Mae 77 a 78 yn curo’u hadenydd ac yn neidio i fyny ac i lawr hyd yn oed ac yn cryfhau trwy’r amser. Mae’r tymor wedi hedfan heibio ac fydd o ddim yn hir cyn i’r Gweilch ifainc wneud yr un peth.

Mae Gwalch y Pysgod arall a Gwylan y Penwaig wedi bod yn tarfu ar ein teulu trwy’r wythnos. Pan mae’r rhieni yn amddiffyn y rhai bach mae’n rhaid iddyn nhw aros am bysgodyn, ac felly mae’r nifer o bysgod sydd wedi dod i’r nyth wedi amrywio o 2 i 6 y dydd! Ddoe (dydd Sadwrn) fe ddaeth y ceiliog â 6 physgodyn i’r nyth o fewn 4 awr. Efallai ei fod e’n rhagweld tywydd pysgota gwael heddiw!