Places to visit

Do you love our nature reserves? Share your thoughts with the community. Or if you're thinking about visiting and would like to find out more, ask away!

October, 2011

Glaslyn osprey diary

Follow the fortunes of a pair of ospreys breeding near Porthmadog in north Wales.
  • Glaslyn osprey diary

    Ghostly Glaslyn / Bwganod Glaslyn

    • 0 Comments

    Fersiwn Gymraeg islaw / Welsh language version below

    30th October 2011

    This weekend saw some strange visitors to the site –  witches, skeletons and pumpkin heads!!  Children entered into the ‘spirit’ of the weekend and had an interesting time dissecting Barn Owl pellets to see what animals the bird had been eating.  One of the pellets yielded 3 small mammal skeletons; the concentration of the youngsters was intense.

    The Bramling visited again this week with lots of activity by the Goldfinches, Great tits, Blue tits and Sparrows on the feeder. A Tree creeper was also spotted on a nearby tree. One little fluffy sparrow was so cheeky he came and sat on the handrail of the hide watching the visitors watching him!

    On the river the Goosander pair and Swans caught everyone’s attention and the fish were jumping too.  No less than five Curlew feeding on the opposite bank and a flock of twenty further down the river was a wonderful view.  We also saw a siege of Herons in the adjacent field.

      

                                              Nicos ar y bwydwr / Goldfinches on the feeder

     

    30ain Hydref

    Y penwythnos hwn gwelwyd ymwelwyr dieithr i'r safle – gwrachod, sgerbydau a phennau pwmpen!! Fe aeth y plant i mewn i 'ysbryd' y penwythnos gan fwynhau eu hunain yn dyrannu pelenni y Dylluan Wen i weld pa anifeiliaid roedd yr aderyn wedi eu bwyta. Roedd un o'r pelenni yn cynnwys sgerbydau 3 o famaliaid bychain; doedd dim problem cael y bobl ifanc i ganolbwyntio ar eu gwaith!

    Fe wnaeth y Pinc y Mynydd ymweld â ni unwaith eto yr wythnos hon ac fe fu’r Nicos, y Titwod Mawr, y Titwod Tomos Las ac Adar y Tô yn brysur iawn ar y bwydwr. Gwelwyd Dringwr Bach ar goeden gyfagos hefyd. Roedd un Aderyn y Tô bach fflwfflyd mor eofn fe benderfynodd eistedd ar ganllaw’r guddfan a gwylio’r ymwelwyr yn ei wylio ef!

    Ar yr afon fe wnaeth y pâr o Hwyiaid Danheddog a’r Elyrch ddal sylw pawb ac fe fu’r pysgod yn neidio hefyd. Roedd gweld 5 Gylfinir yn bwydo ar y lan gyferbyn ac ugain arall ymhellach i lawr yr afon yn olygfan hyfryd. Fe welon ni hefyd lwyth o Grehyrod yn y cae cyfagos.

  • Glaslyn osprey diary

    Winter visitors arrive at Glaslyn / Ymwelwyr y gaeaf yn cyrraedd Glaslyn

    • 0 Comments

    Fersiwn Gymraeg islaw / Welsh language version below

    Although the weather has been very unpredictable this week with brilliant sunshine then hailstones, the wild life in the valley has been stunning.  With all the usual visitors we have also seen our first brambling and a flock of about 200 Redwings tumbling and playing above the hide. 

    During one of our walks on Sunday we saw cormorant, snipe, and a group of around 20 Curlew! Several photographers have been lucky to get some great photos of the little birds in flight around the feeder in the tree as they were queuing up on the branches waiting their turn for a space to feed

    A Shelduck put in an appearance on the river, and because of the spraying of fertiliser in the adjacent fields large flocks of Black Headed and Herring Gulls were feeding close by.

    Adar ar fwydwr ger y guddfan, o'r uchaf i'r gwaelod: pinc y mynydd, titw mawr a ji-binc / Birds on the hide feeder,  from top to bottom: brambling, great tit, chaffinch.

    Er bod y tywydd wedi bod yn anwadal yr wythnos hon gyda heulwen disglair un funud a chenllysg y funud nesaf, mae’r bywyd gwyllt yn y dyffryn wedi bod yn wych. Ymhlith ein hymwelwyr arferol rydym hefyd wedi gweld ein pinc y mynydd cyntaf ac oddeutu 200 o goch dan adain yn plymio ac yn chwarae uwchben y guddfan.

    Yn ystod un o'n teithiau cerdded ar y dydd Sul fe welson ni filidowcar, gïach a grŵp o tua 20 Gylfinir! Mae nifer o ffotograffwyr wedi bod yn lwcus i gael nifer o luniau gwych o'r adar bach yn hedfan o gwmpas y bwydwr yn y goeden wrth iddyn nhw giwio ar y canghennau yn aros eu tro am le i fwydo.

    Fe wnaeth hwyaden yr eithin ymddangos ar yr afon ac, oherwydd y chwistrellu gwrtaith sydd wedi bod yn mynd yn ei flaen ar y caeau cyfagos, mae heidiau mawr o wylanod pen-ddu a phenwaig wedi bod yn yn bwydo gerllaw.

  • Glaslyn osprey diary

    Glaslyn Swans / Elyrch Glaslyn

    • 0 Comments

    Fersiwn Gymraeg islaw / Welsh language version below

    The fine weather over the weekend brought a few visitors to the site to see our abundant wildlife at the site.  Two whooper swans have taken to visiting and feeding in the pool in front of the hide and a pair of mute swans and cygnet actually came up the bank to the hide! Were they watching us watching them?!   

    The otter was playing and calling earlier in the week but we only caught glimpses of it, and the heron continues to fish under the bridge.  The starlings are now grouping and even a snipe was spotted in the field.  These, along with the increased activity of the smaller birds on the feeders by the hide and across from the tables, have given us plenty to see.

    Fe ddaeth y tywydd braf dros y penwythnos â nifer o ymwelwyr i'r safle i weld y bywyd gwyllt toreithiog sydd ganddom ni yma. Mae dau alarch y gogledd wedi dewis ymweld a bwydo yn y pwll o flaen y guddfan ac fe ddaeth pâr o elyrch mud a chyw alarch am dro i fyny glan yr afon at y guddfan! Ai nhw oedd yn gwylio ni neu ni oedd yn gwylio nhw?!

    Roedd y dyfrgi yn chwarae ac yn galw yn gynharach yn yr wythnos ond dim ond ambell i gipolwg ohono gawsom ni, ac mae’r crëyr glas  yn parhau i bysgota o dan y bont. Mae'r drudwennod yn awr yn ymgynnull efo’u gilydd ac fe welsom ni gïach hyd yn oed mewn cae gerllaw. Mae'r rhain, ynghyd â nifer o adar llai sy’n ymweld â’n byrddau bwydo ger y guddfan, yn golygu bod digon i’w weld ar y safle trwy gydol y dydd.

  • Glaslyn osprey diary

    Glaslyn - Open Again! / Ar agor eto!

    • 0 Comments

    Fersiwn iaith Gymraeg islaw / Welsh language version below

    As the site is now open at weekends we have had some visitors dropping by.  The vanguard of Whooper Swans has arrived and there has been a rare sighting of a Hen Harrier flying over the site.  A family of Goosanders seem to have taken a shine to the part of the river in front of the hide as they have been seen there on several occasions over the last weekend.

    In the trees lining the riverbank we have had sightings of Kingfisher, Chaffinch, Great Tits, Blue Tits, Goldfinch, Robin, Sparrow and even a pair of Tree Creepers!

    Come down and visit the site during the half term holiday opening from 16th to 31st October inclusive and join in the fun at our Autumn Fayre on October 22nd and 23rd, also our Pellets & Poo day on October 30th, just right for Halloween!

     

    Gan fod y safle yn awr ar agor ar benwythnosau rydym eisoes wedi cael nifer o ymwelwyr yn galw heibio. Mae’r criw cyntaf o Elyrch y Gogledd wedi cyrraedd a ‘da ni hefyd weld golygfa brin o Fod Tinwen yn hedfan dros y safle. Mae teulu o Hwyaid Danheddog wedi ymgartrefu ar ran o’r afon o flaen y guddfan – mae nhw wedi eu gweld yno ar sawl achlysur yn ystod y penwythnos diwethaf.

    Yn y coed gerllaw’r afon rydym wedi cael gweld Glas y Dorlan, Ji-Binc, Titw Mawr, Titw Tomos Las, Nico, Robin, Adar y Tô ac hyd yn oed pâr o Ddringwyr Bychain!

    Mae croeso cynnes iawn i chi ymweld â'r safle yn ystod gwyliau hanner tymor o Hydref 16-3,  acymuno yn yr hwyl yn ein Ffair Hydref ar yr 22ain a 23ain, yn ogystal ag ein diwrnod Pelenni a Pŵ ar 30ain Hydref, digwyddiad perffaith ar gyfer Calan Gaeaf!

Page 1 of 1 (4 items)