English language version / Fersiwn Saesneg islaw
11 Mawrth, 2012Mae pethau’n gyffrous yn y dyffryn ar hyn o bryd oherwydd bod sawl adroddiad ‘di bod o Weilch y Pysgod (heb eu cadarnhau) yng Nghanolbarth Cymru, ac yn wir yng Ngwynedd. Mae'n ddigon posibl y bydd yr adar i'w gweld ar y nyth yn fuan iawn.Ymhlith uchafbwyntiau’r wythnos oedd golygfa hyfryd o wyth o fwncathod yn arddangos ac yn ‘ dawnsio’ uwchben y safle yng nghwmni Barcud Coch! Fe’m synwyd gan fabolgampau gosgeiddig yr adar yma.
Ar yr afon mae’r hwyaden frongoch wedi bod yn pysgota unwaith eto ac roedd gweld haid o wyddau yn hedfan or afon o flaen y guddfan yn anhygoel.Mae’r gwanwyn yn bendant ar ei ffordd gyda'r eithin yn edrych yn hardd, a chyda cri’r gornchwiglen a'r gylfinir i’w glywed hefyd, mae’r dyffryn yn bendant yn dechrau deffro.
Gwyddau Canada ar y Glaslyn / Canadae Geese on the Glaslyn
11th March 2012
Much excitement in the valley at the moment as there has been several unconfirmed sightings of Osprey in Mid Wales and indeed in Gwynedd. It may well be that the birds will be seen on the nest very soon.
Amongst the spectacles of the week was the wonderful sight of eight buzzards displaying and dancing above the site in the company of a Red Kite! It fair took your breath away watching the graceful soaring and tumbling.
On the river the merganser has been fishing once again and the fabulous sight of a flock of geese taking off from the river in front of the hide was incredible.
Spring is definitely on the way with the gorse looking very pretty, and with the sight and sounds of the lapwing and curlew all around, the valley is definitely alive.