Places to visit

Do you love our nature reserves? Share your thoughts with the community. Or if you're thinking about visiting and would like to find out more, ask away!

April, 2012

Glaslyn osprey diary

Follow the fortunes of a pair of ospreys breeding near Porthmadog in north Wales.
  • Glaslyn osprey diary

    Y Gweilch yn gadarn yng ngwyneb y tywydd garw / Ospreys brave the bad weather

    • 0 Comments

    This is a bilingual blog - the English language version can be found below the Welsh language / Mae hwn yn flog dwyieithog - mae'r fersiwn Saesneg islaw yr un Gymraeg.

    29 Ebrill, 2012

    Fe achosodd y tywydd garw iawn ar ddydd Sul 29ain, pan gawsom ni hyrddiau gwynt o hyd at 60 milltir yr awr, rywfaint o niwed i nyth y gweilch. Serch hynny, fe brofodd yr iâr ei dycnwch drwy aros yn ddiysgog ar y nyth. Fe fethodd y ceiliog a glanio ar y nyth ar un adeg oherwydd ffyrnigrwydd y gwynt.

    Yn gynharach yn yr wythnos, tra bod y ceiliog i ffwrdd yn pysgota, fel laniodd walch mawr arall ar y postyn gerllaw’r nyth er mawr aniddigrywdd i’r iâr. Fe wnaeth hi gynhyrfu’n lan a chreu lot fawr o sŵn ond fe wnaeth hi wrthod yn lan a gadael yr wyau er mwyn ei hel o ‘na, ac yn y diwedd fe gafodd y gwalch dieithr ddigon a’i gadael mewn llonydd.

    Ar brynhawn dydd Mawrth fe wnaeth golygfa hyfryd carlwm yn prancio ar draws y cae tuag at y llwyni ar hyd yr afon godi gwên ar wynebau ein hymwelwyr a staff fel ei gilydd.

    29th April 2012

    The very severe weather experienced on Sunday 29th with gusts of up to 60 miles per hour caused some damage to the nest. However, the female osprey remained firmly on the nest.  The male was unable to land on the nest at one point due to the ferocity of the wind.

    Earlier in the week, whilst the male was off fishing, another large osprey landed on the post near the nest much to the annoyance of the female who became very agitated and vocal but she refused to leave the eggs to give chase, and eventually the interloper took the hint and left.

    A wonderful sight of a stoat scampering across the field towards the bushes along the river on Tuesday afternoon brought a smile to the faces of the visitors and staff alike.

  • Glaslyn osprey diary

    Rhieni Da y Glaslyn / Glaslyn's Good Parents

    • 0 Comments

    This is a bilingual blog - the English language version can be found below the Welsh language / Mae hwn yn flog dwyieithog - mae'r fersiwn Saesneg islaw yr un Gymraeg.

    22 Ebrill, 2012

    Er gwaethaf y tywydd cymysg yr wythnos hon, pan gawsom ni genllysg, cawodydd a heulwen braf mae’r gweilch wedi bod yn ddiwyd yn gori'r wyau. Bu sawl achlysur pan fu’n rhaid i’r iâr adael y nyth i hel adar i ffwrdd -  fe fu gwalch arall, bwncath ac hyd yn oed y brân yn ceisio dwyn ​​pysgod oddi wrthi hi a’r ceililog tra roedden nhw’n bwydo.

    Cafwyd nifer o adroddiadau yn lleol o weilch y pysgod eraill yn pysgota tra bod pâr y Glaslyn ‘di bod wrth y nyth, felly ry’n ni’n rhagweld y bydd ‘na ragor o weilch yn ymgartrefu yn y dyffryn eleni. Newyddion da iawn!

    Mae’r gwennoliaid wedi bod yn brysur bwydo ar y gwybed ar yr afon er nad ydynt wedi dechrau meddwl am nythu eto. Mae nifer o wennoliaid y glennydd hefyd ‘di bod yn hel bwyd uwchben yr afon.

    Adar eraill a welwyd yn ystod ein taith gerdded ddydd Sul: cyffylog, pibydd y dorlan, y cigfran, tinwen y garn a chlochdar y cerrig.

             Un o weilch y Glaslyn / One of the Glaslyn Opreys (Llun/Photo: Tony Pope)

    22nd April, 2012

    Despite the mixed bag of weather this week with hail, showers and sunshine the ospreys have been diligently incubating the eggs.  There have been several occasions when the female has left the nest to chase off intruding birds, both osprey and buzzard and even the odd crow or two who have tried to steal the fish from them whilst feeding.

    There have been several reports locally of osprey fishing whilst the Glaslyn pair have been on the nest, so we anticipate that there may by more osprey looking at the valley as a home for this year.  Good news all round!

    The swallows have been busy feeding on the midges on the river although they have not yet seen fit to look over the nest abandoned last year.  Also gathering food on the river have been several sand martins.

    Other birds spotted on our Sunday walk were: woodcock, common sandpiper, raven, wheatear and stonechat.

  • Glaslyn osprey diary

    3 Wy yn Glaslyn? / 3 Eggs at Glaslyn?

    • 0 Comments

    This is a bilingual blog - the English language version can be found below the Welsh language / Mae hwn yn flog dwyieithog - mae'r fersiwn Saesneg islaw yr un Gymraeg.

    Ebrill 8fed, 2012

    Er gwaethaf yr eira a gwyntoedd cryfion yn gynnar yn ystod yr wythnos, ar ddydd Mercher 4 Ebrill fe wnaeth iâr y Gwalch y Pysgod ddodwy ei hwy cyntaf.  Tra bod y goeden yn siglo yn y gwynt, fe ddaeth y ceiliog â thalpiau o fwsogl i inswleiddio'r nyth.

    Fe welodd cannoedd o ymwelwyr Safle Pont Croesor luniau o'r Gweilch ar y nyth, gyda rhai yn ddigon ffodus i gael golygfeydd gwych o'r ceiliog yn hedfan dros y safle gyda physgodyn mawr.

    Erbyn diwedd penwythnos y Pasg roedd y Gweilch wedi setlo i mewn i’w trefn gori.  Er na allwn weld i mewn i'r ganol y nyth gan fod ‘wal’ uchel yn ei hinsiwleiddio, ni’n tybio bod tri wy yn y nyth erbyn hyn.

    Ymhlith uchafbwyntiau eraill safle’r Glaslyn yn ystod yr wythnos a aeth heibio oedd gweld Gwalch y Pysgod benywaidd arall yn yr ardal, yn ogystal â dyfrgwn, glas y dorlan, hwyaden ddanheddog; hwyaden ddanheddog fronrudd ac, yn araf bach, ymddangosiad ambell i aderyn mudol yr haf.

     

    8th April 2012 

    Despite the snow and gales early in the week, on Wednesday 4th April the Glaslyn female Osprey produced her first egg.  While the tree swayed in the wind, the male Osprey brought in clumps of moss to insulate the nest. 

    Hundreds of visitors to the Pont Croesor Site saw footage of the parent birds on the nest, with some lucky enough to gain superb views of the Male flying over the site with a large fish.

    By the end of the Easter weekend, the Ospreys have settled into their incubating routine.  Although we cannot see into the bowl of the nest as there is a high ‘wall’ of insulation we presume that there are now three eggs in the nest.

    Other highlights at Glaslyn this week have been another female osprey as well as an otter; kingfisher; goosander; red-breasted-merganser and slowly returning summer migrants.

     

     

  • Glaslyn osprey diary

    Exciting news / newyddion cyffrous

    • 0 Comments

    It is believed the female osprey laid her first egg on Tuesday 3 April. The spotting was confirmed at 10.02am on Wednesday 4 April. / Mae'n edrych yn debyg bod yr iar wedi dodwy ei hwy cyntaf ar ddydd Mawrth, Ebrill 3ydd. Fe gadarnhawyd y newyddion am 10:02 bore dydd Mercher 4 Ebrill. For more info go to www.rspb.org.uk/wales

Page 1 of 1 (4 items)