Yng nghanol y glaw a’r llifogydd fe wnaeth y cyw cyntaf ddeor ar fore dydd Gwener (11eg) ac, gwaethaf yr holl byllau dŵr y bu’n rhaid iddyn nhw gamu drostynt, fe ddaeth nifer o bobl acw i weld yr iâr yn bwydo'r cyw bach. Fe wnaeth yr ail gyw ddeor o flaen amser am union 8 o’r gloch ar fore dydd Sadwrn yn yr heulwen braf, ac fe gyrrhaeddodd y trydydd cyw heddiw!
Mae'r ceiliog y gweilch yn ymweld yn gyson â’r nyth gyda naill ai pysgod ar gyfer yr iâr a’r cywion neu frigau i drwsio’r difrod a achoswyd i'r nyth gan y gwynt dros yr wythnos diwethaf.
Ar un adeg ar ddydd Sadwrn roedd y ddau oedolyn yn mantellu’r nyth ac wedi’u cynhyrfu yn lan pan oedd gwalch arall yn hedfan o’u hamgylch. Fe wnaeth yr iâr hedfan i hel o i ffwrdd ond yn fuan iawn roedd hi nôl yn eistedd yn glyd ar y nyth, y ddau gyw a’r wy.
Gwelwyd nifer o famaliaid bychain yn chwilota yn y waliau uwchlaw lefel y dŵr - gobeithio’u bod nhw wedi llwyddo i gadw'u teuluoedd yn ddiogel. Mae'n ymddangos bod y bwncath a'r barcud wedi bod yn chwilio’r meysydd ar gyfer yr anifeiliaid hynny a fethodd a chyrraedd tir uwch.
Amid the rain and flooding the first chick hatched on Friday (11th) morning and, even though there were several puddles to navigate, several people called to see the sight of the female feeding the hours old chick. The second chick arrived ahead of schedule at just after 8.00a.m. on Saturday morning this time in glorious sunshine, and the third chick hatched this morning!
The male was constantly visiting the nest with either fish for the female and chicks or sticks to repair the damage caused to the nest over the last week by the winds.
There was an occasion on Saturday when both adults were mantling the nest and agitated when another osprey was sighted flying around the nest. The female took off to chase it away but was soon back firmly sitting on the chicks and remaining egg.
There have been many sightings of small mammals foraging in the walls well above the water level and hopefully keeping their families safe. It seems that the buzzards and kite have been searching the fields for any that did not make it to higher ground.