Blog dwyeithog yw hwn - fersiwn Saesneg islaw / This is a bilingual blog - English language version below
18 Mehefin, 2012Er gwaethaf y tywydd eithriadol o wlyb a gwyntog mae’r cywion yn dal i wneud yn dda gan fod eu plu yn awr yn eu hamddiffyn rhag yr elfennau. Er bod llif yr afon yn eithaf uchel mae;r ceiliog wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth ddod â llawer o bysgod yn ôl i'r nyth.Ar ddydd Iau, tra bod y ceiliog i ffwrdd yn pysgota, fe ddaeth pâr arall o weilch acw a chylchu uwchben y nyth am oddeutu 3 - 4 munud er mawr bryder i’r iâr. Fe wnaethon nhw ddychwelyd tua awr yn ddiweddarach pryd cawson nhw eu herio gan geilog y Glaslyn a oedd yn cario pysgodyn. Fe ymunodd yr iâr ag ef a fuon nhw’n llwyddiannus yn eu hel nhw o ‘na. Yn amlwg, mae’r llifddwr wedi hawlio bwywydau rhagor o adar ac anifeiliaid, sefyllfa sydd wedi annog barcutiaid cochion a bwncathod i chwilota yn y caeau cyfagos am fwyd.Ac i gloi, mae nifer o gywion y llinosiaid gwyrdd ac adar y to wedi cynyddu yn ystod yr wythnos diwethaf ac mae'n eithaf doniol eu gweld yn ciwio ar y canghennau ar gyfer yr oedolion i'w bwydo.
18th June 2012
Despite the extremely wet and windy conditions the chicks are doing very well as their feathers are now protecting them from the elements. Even though the river levels are quite high the male has been very successful in brining back lots of fish to the nest.
On Thursday, whilst the male was away fishing, another pair of osprey were circling the nest for about 3 – 4 minutes, much to the consternation of the female. They returned about an hour later to be challenged by the Glaslyn male carrying a fish, who was then joined by the female and they successfully saw the other pair off.
Obviously the floodwater has claimed more victims, which has encouraged the Red Kite and Buzzard to scavenge in the nearby fields.
And finally, the number of greenfinch and sparrow fledglings have increased over the last week and it is quite comical to see them queuing up waiting on the branches for the adults to feed them.