Yng nghanol y glaw a’r llifogydd fe wnaeth y cyw cyntaf ddeor ar fore dydd Gwener (11eg) ac, gwaethaf yr holl byllau dŵr y bu’n rhaid iddyn nhw gamu drostynt, fe ddaeth nifer o bobl acw i weld yr iâr yn bwydo'r cyw bach. Fe wnaeth yr ail gyw ddeor o flaen amser am union 8 o’r gloch ar fore dydd Sadwrn yn yr heulwen braf, ac fe gyrrhaeddodd y trydydd cyw heddiw!
Mae'r ceiliog y gweilch yn ymweld yn gyson â’r nyth gyda naill ai pysgod ar gyfer yr iâr a’r cywion neu frigau i drwsio’r difrod a achoswyd i'r nyth gan y gwynt dros yr wythnos diwethaf.
Ar un adeg ar ddydd Sadwrn roedd y ddau oedolyn yn mantellu’r nyth ac wedi’u cynhyrfu yn lan pan oedd gwalch arall yn hedfan o’u hamgylch. Fe wnaeth yr iâr hedfan i hel o i ffwrdd ond yn fuan iawn roedd hi nôl yn eistedd yn glyd ar y nyth, y ddau gyw a’r wy.
Gwelwyd nifer o famaliaid bychain yn chwilota yn y waliau uwchlaw lefel y dŵr - gobeithio’u bod nhw wedi llwyddo i gadw'u teuluoedd yn ddiogel. Mae'n ymddangos bod y bwncath a'r barcud wedi bod yn chwilio’r meysydd ar gyfer yr anifeiliaid hynny a fethodd a chyrraedd tir uwch.
Amid the rain and flooding the first chick hatched on Friday (11th) morning and, even though there were several puddles to navigate, several people called to see the sight of the female feeding the hours old chick. The second chick arrived ahead of schedule at just after 8.00a.m. on Saturday morning this time in glorious sunshine, and the third chick hatched this morning!
The male was constantly visiting the nest with either fish for the female and chicks or sticks to repair the damage caused to the nest over the last week by the winds.
There was an occasion on Saturday when both adults were mantling the nest and agitated when another osprey was sighted flying around the nest. The female took off to chase it away but was soon back firmly sitting on the chicks and remaining egg.
There have been many sightings of small mammals foraging in the walls well above the water level and hopefully keeping their families safe. It seems that the buzzards and kite have been searching the fields for any that did not make it to higher ground.
The third chick hatched at the Glaslyn Osprey project this morning (Monday 14 May) at 6.15am, more info on http://www.facebook.com/pages/RSPB-Glaslyn-Osprey-Project/335219617978 Below is an image of two of the chicks with their parents before the third was hatched.
Hot news - second chick hatched around 8.05 a.m. today, visit the Glalsyn osprey facebook page for more info about the project http://www.facebook.com/pages/RSPB-Glaslyn-Osprey-Project/335219617978
Breaking news – the Glaslyn osprey family has a new addition as of 10am this morning. For more info please visit www.rspb.org.uk/wales or visit us on facebook.
Ar ôl y stormydd penwythnos diwethaf mae celiog y Gweilch wedi bod yn dod â rhagor o frigau i drwsio’r nyth, ac mae’r iâr wedi bod yn gwrthod gadael iddo dreulio lot o amser yn gori’r wyau – awgrym efallai bod yr wyau ar fine deor? Ar un achlysur fe ddaeth y ceiliog ag eog enfawr i’r nyth. Roedd o mor fawr, fe eisteddod yr iâr ger y gweddillion wedi stwffio’i hun yn llwyr!
Mae o wedi’i gadarnhau bellach mai un o gywion y pâr o 2008 (YC) yw un o’r gweilch sydd wedi’i weld yn pysgota yn yr ardal a ry’n ni gyd yn gobeithio y gwnaiff o ddewis byw yn dyffryn hefyd.
Newyddion adar eraill: mael gwennoliaid duon, gwennoliaid a gwennoliaid y bondo a’r dorlan, yn ogystal â theloriaid, yn araf gyrraedd ynghyd ag adar mudol eraill.
Bore dydd Llun fe ddaethpwyd o hyd i weddillion lamprai'r môr o dan Pont Croesor sy’n awgrymu ei fod wedi cael ei fwyta ar ôl iddo silio gan ddyfrgi.
After the storms of last weekend the male osprey has been bringing in more branches to repair the nest and the female is not letting him incubate for long – perhaps an indication that hatching will be soon. On one occasion the male brought in a very large salmon, so big that the female sat by the remains on the side of the nest completely sated!
It has now been confirmed that one of the pair’s young from 2008 (YC) is definitely one of the ospreys sighted fishing in the area and hopes are high that he has chosen to reside in the valley too.
Other bird news: swifts, swallows and martins are slowly arriving along with warblers and other migrants.
On Monday morning a partially eaten sea lamprey was seen under Pont Croesor and indications are that it was one that had provided a meal for the otter after spawning.