Places to visit

Do you love our nature reserves? Share your thoughts with the community. Or if you're thinking about visiting and would like to find out more, ask away!

Glaslyn osprey diary

Follow the fortunes of a pair of ospreys breeding near Porthmadog in north Wales.
  • Glaslyn osprey diary

    Modrwyo'r cywion / ringing the chicks

    • 0 Comments

    Mae hwn yn flog dwyieithog – fersiwn Saesneg islaw / This is a bilingual blog – English language version below.

    24eg Mehefin 2012

    Mae'r cywion ‘di bod yn tyfu’n gyflym wythnos yma – mae nhw’n newid maint bron bob tro da chi’n sbio arnyn nhw.  Fe roddwyd modrwyon ar eu coesau ar bnawn dydd Llun ac mae modd eu hadnabod nawr o’u rhifau: 80; 0C a 1C. Ni’n meddwl mai 3 iâr sydd ganddom ni. Tra’u bod nhw’n cael eu pwyso a'u mesur ac ati, fe welwyd y ceiliog yn hedfan o amgylch ardal y nyth gyda physgodyn, a chyn gynted y gadawodd y criw modrwyo’r goeden fe ddaeth o nôl i fwydo y cywion a’r iâr. Mae'r cywion wedi cychwyn ceisio tynnu’r pysgod yn ddarnau drostynt eu hunain ac mae ‘na lot fawr o o’u hamser yn cael ei dreulio yn ymestyn a chwifio eu hadenydd. Fydd o ddim yn hir rwan cyn bod nhw’n hedfan y nyth.

    Newyddion eraill o'r Glaslyn: mae pâr o elyrch gyda 4 o gywion  mawr wedi bod yn bwydo ar lan yr afon ochr ger y guddfan ac rydym hefyd wedi gweld noger o gywion y tingoch. Draw ar yr afon ger y nyth fe welwyd dyfrgi yn dal hwyaden wyllt.

    24th June 2012

    The chicks are growing almost before our eyes this week.  They acquired their new rings on Monday afternoon and are now identifiable by their numbers of 80; 0C and 1C; we think that we have 3 females.  Whilst they were being weighed etc, the male was seen flying around the nest area with a fish, and as soon as the ringing party left the tree area he was back feeding the chicks and female.  The chicks are now attempting to pull at the fish for themselves and doing lots of wing stretching and flapping so it will not be long before the first one fledges.

    Other news from the Glaslyn: a pair of swans with 4 quite large cygnets have been feeding on the riverbank alongside the hide, and we have had sightings of Redstart chicks.  Over at the nest area on the river an Otter was seen taking an adult mallard.

  • Glaslyn osprey diary

    Cywion mawr a bach yn Glaslyn / Chicks, large and small, at Glaslyn

    • 0 Comments

    Blog dwyeithog yw hwn - fersiwn Saesneg islaw / This is a bilingual blog - English language version below

    18 Mehefin, 2012

    Er gwaethaf y tywydd eithriadol o wlyb a gwyntog mae’r cywion yn dal i wneud yn dda gan fod eu plu yn awr yn eu hamddiffyn rhag yr elfennau. Er bod llif yr afon yn eithaf uchel mae;r ceiliog wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth ddod â llawer o bysgod yn ôl i'r nyth.

    Ar ddydd Iau, tra bod y ceiliog i ffwrdd yn pysgota, fe ddaeth pâr arall o weilch acw a chylchu uwchben y nyth am oddeutu 3 - 4 munud er mawr bryder i’r iâr. Fe wnaethon nhw ddychwelyd tua awr yn ddiweddarach pryd cawson nhw eu herio gan geilog y Glaslyn a oedd yn cario pysgodyn. Fe ymunodd yr iâr ag ef a fuon nhw’n llwyddiannus yn eu hel nhw o ‘na.

    Yn amlwg, mae’r llifddwr wedi hawlio bwywydau rhagor o adar ac anifeiliaid, sefyllfa sydd wedi annog barcutiaid cochion a bwncathod i chwilota yn y caeau cyfagos am fwyd.

    Ac i gloi, mae nifer o gywion y llinosiaid gwyrdd ac adar y to wedi cynyddu yn ystod yr wythnos diwethaf ac mae'n eithaf doniol eu gweld yn ciwio ar y canghennau ar gyfer yr oedolion i'w bwydo.

     

    18th June 2012

    Despite the extremely wet and windy conditions the chicks are doing very well as their feathers are now protecting them from the elements.  Even though the river levels are quite high the male has been very successful in brining back lots of fish to the nest.

    On Thursday, whilst the male was away fishing, another pair of osprey were circling the nest for about 3 – 4 minutes, much to the consternation of the female.  They returned about an hour later to be challenged by the Glaslyn male carrying a fish, who was then joined by the female and they successfully saw the other pair off.

    Obviously the floodwater has claimed more victims, which has encouraged the Red Kite and Buzzard to scavenge in the nearby fields.

    And finally, the number of greenfinch and sparrow fledglings have increased over the last week and it is quite comical to see them queuing up waiting on the branches for the adults to feed them.

     

     

     

  • Glaslyn osprey diary

    Bad weather but all's well / tywydd yn wael ond popeth yn iawn

    • 0 Comments

    Blog dwyieithog yw hwn – fersiwn Saesneg islaw / This is a bilingual blog – English language version below.

    10 Mehefin, 2012

    Ymddiheuriadau am y saib yn y blogio. Problem yn ein pencadlys.

    Er gwaethaf y tywydd erchyll, mae’r Gweilch wedi bod yn gofalu am eu rhai bach yn ofalus iawn, gyda’r iâr yn eu gwarchod o’r glaw a’r gwynt trwy eu gorchuddio â’i hadenydd tra bod y ceiliog yn eu bwydo. Cafwydd cryn dipyn o gyffro ar ddydd Gwener pan ymysodwyd ar y nyth gan ddwy bioden, a phenderfynodd un o’r cywion daflu ei hun i mewn i’r ffrwgwd i amddiffyn ei diriogaeth!  Fodd bynnag, ymddangosodd y ceiliog yn sydyn iawn a’u herlid nhw o ‘na.

    Fe berodd golygfa o minc yn rasio ar hyd ymyl yr afon y tu draw i’r guddfan gryn dipyn o syndod a gofid i bawb. Gwelwyd ef yn dal llysywen o dan y bont yn ddiweddarach yn y dydd.

    Mae'r Crëyrod Glas wedi bod yn cadw digon o sŵn gyda haid ohonynt yn arddangos uwchben y safle. Uchafbwynt arall o’r wythnos oedd clywed a gweld gylfinir.

    Miinc ar lan yr afon Glaslyn / Mink on the river Glaslyn - credit Tony Pope


    10th June 2012

    Apologies for the delay in blogging – a problem arose at our HQ.

    Despite the atrocious weather, the adult Ospreys have been attentively caring for the youngsters, with the female mantling them to keep them dry whilst the male fed them.  There was an incident on Friday when the nest was invaded by a couple of magpie and one of the chicks ‘had a go!’. However, the male appeared very quickly and chased them off.

    A mink racing along the opposite bank to the hide during the week much to the consternation of all.  It was seen catching an eel under the bridge later in the day.

    The Heron have been very vocal with a siege of them displaying over the site. Another highlight of the week was the sight and sound of a curlew.

  • Glaslyn osprey diary

    beth sy'n digwydd yn y nyth? / what's happening in the nest?

    • 0 Comments

    Yng nghanol y glaw a’r llifogydd fe wnaeth y cyw cyntaf ddeor ar fore dydd Gwener (11eg) ac, gwaethaf yr holl byllau dŵr y bu’n rhaid iddyn nhw gamu drostynt, fe ddaeth nifer o bobl acw i weld yr iâr yn bwydo'r cyw bach. Fe wnaeth yr ail gyw ddeor o flaen amser am union 8 o’r gloch ar fore dydd Sadwrn yn yr heulwen braf, ac fe gyrrhaeddodd y trydydd cyw heddiw!

    Mae'r ceiliog y gweilch yn ymweld yn gyson â’r nyth gyda naill ai pysgod ar gyfer yr iâr a’r cywion neu frigau i drwsio’r difrod a achoswyd i'r nyth gan y gwynt dros yr wythnos diwethaf.

    Ar un adeg ar ddydd Sadwrn roedd y ddau oedolyn yn mantellu’r nyth ac wedi’u cynhyrfu yn lan pan oedd gwalch arall yn hedfan o’u hamgylch. Fe wnaeth yr iâr hedfan i hel o i ffwrdd ond yn fuan iawn roedd hi nôl yn eistedd yn glyd ar y nyth, y ddau gyw a’r wy.

    Gwelwyd nifer o famaliaid bychain yn chwilota yn y waliau uwchlaw lefel y dŵr  -  gobeithio’u bod nhw wedi llwyddo i gadw'u teuluoedd yn ddiogel. Mae'n ymddangos bod y bwncath a'r barcud wedi bod yn chwilio’r meysydd ar gyfer yr anifeiliaid hynny a fethodd a chyrraedd tir uwch.

    Amid the rain and flooding the first chick hatched on Friday (11th) morning and, even though there were several puddles to navigate, several people called to see the sight of the female feeding the hours old chick.  The second chick arrived ahead of schedule at just after 8.00a.m. on Saturday morning this time in glorious sunshine, and the third chick hatched this morning!

    The male was constantly visiting the nest with either fish for the female and chicks or sticks to repair the damage caused to the nest over the last week by the winds.

    There was an occasion on Saturday when both adults were mantling the nest and agitated when another osprey was sighted flying around the nest. The female took off to chase it away but was soon back firmly sitting on the chicks and remaining egg.

    There have been many sightings of small mammals foraging in the walls well above the water level and hopefully keeping their families safe.  It seems that the buzzards and kite have been searching the fields for any that did not make it to higher ground.

  • Glaslyn osprey diary

    Third chick at Glaslyn this morning!

    • 0 Comments

    The third chick hatched at the Glaslyn Osprey project this morning (Monday 14 May) at 6.15am, more info on http://www.facebook.com/pages/RSPB-Glaslyn-Osprey-Project/335219617978 Below is an image of two of the chicks with their parents before the third was hatched.

Page 5 of 41 (202 items) «34567»