Skip navigation
Home > Cymru > Sut y gall RSPB Cymru hybu Astudiaeth o Ddatblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang

Sut y gall RSPB Cymru hybu Astudiaeth o Ddatblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang

Children learning about the countryside at RSPB Ebbw Vale nature reserve

Cred yr RSPB bod addysg awyr agored yn ddull gwerthfawr o sicrhau bod pobl ifanc yn dysgu am eu hamgylchedd ac yn ei ddefnyddio fel adnodd addysgiadol. 

Mae RSPB Cymru yn aelod sylfaenol o Bartneriaeth Dysgu yn y Gwir Fyd Cymru, sydd â'r nod drwyddo draw o gynorthwyo gyda hybu a gwireddu Dysgu Oddi Allan i'r Dosbarth, meithrin gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o'i werth a'i gyfraniad hanfodol i ddatblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang yng Nghymru.

Yr hyn sydd wrth wraidd Addysg dros Ddatblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADdCDF) yw: 'y cysylltiadau rhwng cymdeithas, yr economi a'r amgylchedd a rhwng ein bywydau ein hunain a bywydau pobl ledled y byd; anghenion a hawliau'r genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol; y berthynas rhwng grym, adnoddau a hawliau dynol; goblygiadau lleol a byd-eang pob dim a wnawn a'r gweithrediadau y gall unigolion a chyrff eu cyflawni wrth ymateb i faterion lleol a byd-eang.'  (ACCAC, Estyn, y Cynulliad Cenedlaethol a DFID, 2002).

Gellir diffinio dinesydd byd-eang fel rhywun sydd:

  • yn ymwybodol o'r byd ehangach ac sydd â synnwyr o'u rôl fel dinesydd byd-eang; 
  • yn parchu ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth; 
  • â dealltwriaeth o sut mae'r byd yn gweithio'n economaidd, yn wleidyddol, yn ddiwylliannol, yn dechnolegol ac yn amgylcheddol; 
  • yn cael eu gwylltio gan anghyfiawnder cymdeithasol; 
  • yn cymryd rhan yn y gymuned ac sy'n cyfrannu ati ar ystod o lefelau o'r lleol i'r byd-eang; 
  • yn fodlon gweithredu er mwyn gwneud y byd yn lle mwy cyfartal a chynaliadwy; 
  • yn cymryd cyfrifoldeb am eu gweithrediadau. (Oxfam, dyfynnwyd yn Douglas, 2001, tud.90)

Yn dibynnu ar anghenion unigol, efallai ei bod yn bosibl astudio agweddau o ADdCDF yn ystod ymweliad ag un o bum safle gwaith maes RSPB Cymru.  Lleolir y rhain yn: Conwy, Dolygaer (ger Merthyr Tudful), Llyn Efyrnwy (ger Y Trallwng), Gwlyptiroedd Casnewydd ac Ynys-hir (ger Machynlleth).

Mae'r detholiad o themâu a chysyniadau y gellir eu trafod yn dibynnu ar ba safle y byddwch yn ymweld ag ef.

Cysylltwch â

Jon Gruffydd    
Rheolwr Dysgu Gydol Oes
029 2035 3044   
jon.gruffydd@rspb.org.uk

Last modified: 17 October 2008