Print
Gwlyptiroedd Casnewydd

Perchennog Gwlyptiroedd Casnewydd yw Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) sydd hefyd yn eu rheoli. Mae CCGC yn rhan o bartneriaeth rhwng Cyngor Dinas Casnewydd a’r RSPB i ddatblygu adnoddau ymwelwyr ac addysg ar y safle.
Mae Gwlyptiroedd Casnewydd eisoes yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, ac mae yma nifer o staff a gwirfoddolwyr ymroddedig. Bydd y ganolfan ymwelwyr ac addysg newydd yn gwella profiad ymwelwyr ac yn galluogi mwy o bobl i fwynhau treftadaeth naturiol Casnewydd, dim ond cam a naid o ganol y ddinas.
Mae’r gwaith o adeiladu canolfan addysg ac ymwelwyr newydd ar y gweill ers tro bellach, a bydd yn cael ei chwblhau yn ddiweddarach eleni. Bydd yr RSPB yn gweithredu’r adnoddau newydd yn cynnwys caffi a man gwerthu lle bydd ymwelwyr yn gallu prynu ystod o gynnyrch gofalu am adar. Bydd y ganolfan yn agor ym mis Mawrth 2008. Am ragor o wybodaeth, ewch i'r tudalennau digwyddiadau o'r wefan.
Mae ysgolion lleol eisoes yn mwynhau ymweliadau â Gwlyptiroedd Casnewydd ar gyfer rhaglenni addysg arbennig sy’n cynorthwyo eu profiad ymarferol o’r amgylcheddol.
- Cyswllt: Llinell ymholiadau CCGC 0845 1306 229. Digwyddiadau’r RSPB – 029 2035 3000.
- Tref agosaf: Casnewydd, Casnewydd. Cyfeirnod grid maes parcio’r warchodfa: ST334834
- Cynhelir amrywiaeth o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, yn cynnig cyfleoedd cyffrous i gael blas ar Wlyptiroedd Casnewydd. Ceir rhestr lawn yn adran ddigwyddiadau’r wefan drwy ddewis ‘Casnewydd’ yn y rhestr o dan sir. Fel arall, mae taflen ddigwyddiadau ar gael oddi wrth Bencadlys Cymru yr RSPB.
- I dderbyn y newyddion diweddaraf am Wlyptiroedd Casnewydd yn rheolaidd a chylchlythyr, anfonwch neges ebost gwag at RSPB@gwlyptiroeddcasnewydd.com
- Oriau agor: 10 am - 5 pm (neu’r gwyll os yn gynt)
- Tâl mynediad: dim
Last modified: 15 June 2007