Print
Croesawu cornchwiglod

Rydw i wedi bod yn amaethu yma yn Hafoty Gwyn yng nghanol ucheldir gogledd Cymru ar hyd fy oes. Cyn belled yn ôl ag y gallaf gofio, mae cornchwiglod wedi byw ar y fferm.
Ni fyddai'r fferm hon yn gyflawn heb gornchwiglod yn galw ac yn arddangos eu hunain yn y gwanwyn a'r haf ac roedd yn beth gwbl naturiol i mi reoli'r fferm er mwyn i'r adar hyn nythu yma.
Rydw i'n cadw 27 o wartheg sugno a 640 o ddefaid ond mae'r bywyd gwyllt a'r adar ar y fferm yn bwysig i mi hefyd, er mai'r gornchwiglen, y gylfinir a'r ehedydd sydd fwyaf hoff gen i. Er mod i wedi annog cornchwiglod erioed, yn fwy diweddar rydw i wedi cydweithio'n agos gyda'r RSPB ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i geisio cynyddu eu nifer ar y fferm.
Mae ychydig o gaeau gwlyb a brwynog ar y fferm a dyma le mae'r gornchwiglen yn hoffi nythu. Mae'r rhan hon o'r fferm hefyd yn dda i'r ehedydd ac, yn y rhannau sydd â mwy o lystyfiant, y gylfinir a'r gïach cyffredin. Rhan bwysig o'r dull o reoli yw newid y drefn bori fel bod y cynefin nythu'n briodol i'r gornchwiglen yn y gwanwyn. Yn yr amgylchedd hwn, ni allaf gadw'r gwartheg draw drwy'r flwyddyn ond, lle bod hynny'n bosibl, rydw i'n newid y drefn bori yn ôl twf y llystyfiant, er mwyn gwneud yn siwr ei fod yn ddigon byr erbyn y tymor nythu.
Mae'r brwyn, fel ar unrhyw dir llaith, yn tueddu i ymledu ac felly byddaf yn eu torri bob hydref ac unwaith eto ym mis Ionawr os gallaf. Rydw i wedi sylwi bod y cornchwiglod yn nythu yma'n aml, ar dwmpathau'r brwyn a dorrwyd, neu ar dir sydd â hoel carnau'r gwartheg. Byddaf hefyd yn defnyddio og gadwyn i wasgaru tail y gwartheg ac yn cribinio wyneb y tir, ac mae hyn yn helpu i ddarparu mwy o fannau bwydo da i'r cornchwiglod cyn iddynt nythu.
Eleni defnyddiais jac codi baw bach i greu pantiau. Er i ambell i bant lwyddo, gobeithiaf wella ar hyn i ddarparu mwy o fannau bwydo i'r cywion a'r oedolion. Mae brain, pïod a llwynogod yn gallu bwyta'r wyau a'r cywion, felly rydym yn rheoli'r rhain drwy ddefnyddio dulliau cyfreithlon a thrugarog.
Yn 2004 roeddwn yn falch iawn o ennill Gwobr Cynllun y Gornchwiglen yng Nghymru, ond nid yw hyn yn golygu fod fy ngwaith i ar ben – byddaf yn parhau i wneud fy ngorau glas i sicrhau bod y gornchwiglen yn mynd i nythu yn Hafoty Gwyn am flynyddoedd lawer i ddod.
Last modified: 29 November 2007