Skip navigation
Home > Cymru > Gweithredu dros gadwraeth yng Nghymru > Grugieir Duon Cymru'n Gwneud yn Well na'r Gweddill

Grugieir Duon Cymru'n Gwneud yn Well na'r Gweddill

1015171 Tractor topping moorland vegetation, Ruabon, North Wales - Black Grouse Project

Mae hi'n ddeng mlynedd bellach ers cychwyn Project Adfer Grugieir Duon Cymru ar y cyd rhwng yr RSPB, Comisiwn Coedwigaeth Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.

Drwy reoli cynefin wedi ei dargedu ar gyfer cadwraeth, mae'r project wedi sicrhau bod y prinhad yn y boblogaeth Gymreig wedi dod i ben a bellach mae dyfodol yr adar yn edrych yn fwy sicr.

Ar un pryd roedd y rugiar ddu yn eang ei dosbarthiad ar hyd a lled llawer o ucheldir Cymru, ac mae'n debyg bod dosbarthiad daearyddol y rhywogaeth ar ei mwyaf eang tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r 1950au. Prinhaodd y boblogaeth yn raddol o'r 1960au ac yn gyflym yn yr 1990au. Credir bod y prinhad hwn wedi digwydd, fel mewn rhannau eraill o Brydain, oherwydd dirywiad a darnio eu cynefin ar raddfa fawr.

Yn seiliedig ar ddosbarthiad poblogaeth y rugiar ddu yng Nghymru, penderfynwyd ar chwe ardal allweddol a oedd ym 1997 yn cynnal 80% o boblogaeth Cymru. Fel rhan o Broject Adfer y Rugiar Ddu'r RSPB/CCC/CCGC, gweithredwyd rheolaeth ddwys dros gadwraeth rhwng 1997 a 2006. O ganlyniad i'r gwaith rheoli crëwyd cynefin ffafriol i'r rugiar ddu drwy leihau dwysedd conifferau, yn enwedig ar hyd ymylon coedwigoedd a'r terfyn rhwng coedwig a rhostir, torri grug i greu cynefin ar gyfer nythu a chwilota am fwyd ac ail-greu mannau llaith i greu lleiniau bwydo i'r cywion.

Yn ystod gaeaf 2005/2006, gweithredwyd rheolaeth cynefin ar ran y rugiar ddu ar 230 hectar. Hefyd, ar hyn o bryd, mae project ar y cyd rhwng yr RSPB/CCC yn treialu pori gwartheg a merlod er mwyn asesu a all pori mewn rhai ardaloedd ychwanegu at neu hyd yn oed gymryd lle rheolaeth fecanyddol i greu cynefin ar gyfer y rugiar ddu.

Dangosodd arolwg a gynhaliwyd eilwaith yn 2005 bod 213 o geiliogod yn arddangos eu hunain, cynnydd o 39% ers yr arolwg diwethaf ym Mhrydain ym 1995. Mae'r cynnydd hwn yn y boblogaeth yn cyd-fynd â'r rheolaeth gadwraeth a dargedwyd ar ardaloedd allweddol.

Last modified: 26 November 2007

In more depth

  • Conserving black grouse

Bird guide