Print
Y rugiar ddu yng Nghymru
)
Aderyn hela trawiadol sy'n byw ar gyrion rhostir a choedwigoedd yw'r rugiar ddu - yn bennaf ar ucheldir Prydain, o Gymru i Ogledd yr Alban.
Beth sy'n cael ei wneud a pham?
Yng Nghymru mae'r rugiar ddu wedi bod yn brwydro'n ôl ers tua phymtheng mlynedd wedi iddi bron â diflannu o'r tir. Mae RSPB Cymru, Menter Coedwigaeth Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a thirfeddianwyr eraill wedi cydweithio'n agos ar Broject Adfer y Rugiar Ddu ers 1998.
Wedi pedair blynedd o reolaeth tir positif a gwaith cadwraeth, dengys canlyniadau'r arolygon bod nifer y rugiar ddu wedi cynyddu o draean ar y chwe safle allweddol lle canolbwyntiwyd ymdrechion y project.
I helpu i greu amodau ffafriol ar gyfer y rugiar ddu mae'r project yn datblygu ac yn rhoi prawf ar ddulliau newydd o reoli cynefin rhostir a choedwigoedd.
Yn arolwg 2002 roedd 202 o geiliogod ar y llecynnau arddangos (mannau denu cymar y rugiar) o'i gymharu â 143 ym 1999. Sicrhawyd y llwyddiant hwn drwy ymdrech ar y cyd rhwng cadwraethwyr, ffermwyr, tirfeddianwyr a choedwigwyr.
Anghenion y rugiar ddu
Mae'r rugiar ddu angen clytwaith o gynefinoedd yr ucheldir, sy'n berthnasol i'r amrywiad tymhorol yn ei bwyd. Mae strwythur y cynefin hwn yn bwysig ac mae angen iddo amrywio mewn uchder ac oedran i ddarparu cysgod rhag ysglyfaethwyr, safleoedd nythu a mannau clwydo a bwydo. Yng Nghymru, mae hyn fel arfer yn cynnwys clytwaith agored o goed ifanc neu goed â mannau agored rhyngddynt gyda haen o rug a llus wedi datblygu'n dda.
Tri o anghenion sylfaenol y rugiar ddu yng Nghymru:
Argaeledd ffynhonnell gyfoethog o fwyd yn gynnar yn y gwanwyn cyn i'r ieir gychwyn dodwy wyau.
Amlder ac amrywiaeth o infertebratau ar gyfer y cywion am y tair wythnos cyntaf ar ôl deor.
Argaeledd parhaol grug a llus wedi ei reoli ar gyfer bwydo, clwydo a chysgod nythu.
I ddarparu amodau ffafriol ar gyfer bwydo yn y gaeaf a'r gwanwyn, dodwy wyau a magu cywion, mae adfer cynefin yn un o brif amcanion y project adfer. Y rheolaeth cynefin angenrheidiol i helpu gydag adfer niferoedd y rugiar ddu yw cyfuniad o reolaeth grug, cwr coedwig a chors/pant gwlyb.
I helpu i greu amodau ffafriol ar gyfer y rugiar ddu mae'r project yn datblygu ac yn rhoi prawf ar ddulliau newydd o reolaeth rhostir a chynefin coedwig. Yn Llyn Efyrnwy (ar y cyd â Dwr Hafren Trent), rydym yn datblygu amrediad o dechnegau torri grug i sicrhau stribedi o wahanol led wedi eu torri. Mae'r rhain yn amrywio o stribedi sy'n ddigon llydan i rugiar ddu gerdded ar ei hyd o le i le, i eraill hyd at 20 m mwy safonol o led. Mae'r arwyddion hyd yn hyn yn galonogol iawn gyda'r rugiar ddu yn ffynnu.
Ffeil ffeithiau'r rugiar ddu
Mae'r rugiar ddu i'w gweld cyn belled â Rwsia a Thsieina
Mae'r rugiar ddu yn arddangos ac yn paru ar lecynnau paru, a dim ond un aderyn arall yn y DU sy'n arddangos ei hun fel hyn sef y pibydd torchog (aderyn rhydiol bychan).
Mae llecynnau arddangos yn draddodiadol a chofnodir rhai mewn defnydd parhaol ers hyd at 60 mlynedd.
Ar lecyn arddangos yn Rwsia ym 1961, cofnodwyd 200 o geiliogod. Mae hyn yn cynrychioli'r nifer fwyaf o geiliogod a gofnodwyd erioed ar un llecyn arddangos ac mae'r rhif hwn gymaint â phoblogaeth Cymru gyfan.
Gall y ceiliogod bwyso cymaint â 1300 g, ond maent oddeutu 1250 g ar gyfartaledd. Mae'r ieir yn pwyso hyd at 990 g gyda phwysau ar gyfartaledd o 945 g.
Beth sy'n digwydd mewn mannau eraill
Mae'n amlwg y bydd darparu cynefin ffafriol yn y mannau priodol yn elfen sylfaenol tuag at adfer poblogaeth iach sy'n cynnal eu hunain o rugieir duon nid yn unig yng Nghymru ond yng ngweddill y DU. Erbyn hyn mae sawl Project Adfer y Rugiar Ddu a drefnir gan nifer o gyrff mewn partneriaeth un ai wedi eu rhoi ar waith neu wedi eu cynllunio mewn sawl ardal sy'n bwysig i'r rugiar ddu.
Ariennir y project hwn gan yr Undeb Ewropeaidd (EAGGF).