Skip navigation
Home > Cymru > Gweithredu dros gadwraeth yng Nghymru > Project RSPB Cymru i Adfer Cornchwiglod yr Ucheldir

Project RSPB Cymru i Adfer Cornchwiglod yr Ucheldir

Lapwing calling

Ym mis Ionawr 2007 rhoddwyd Project pedair-blynedd RSPB Cymru i Adfer Cornchwiglod ar waith yn ardal Hiraethog, ardal 330 cilomedr sgwâr o systemau amaethu glaswellt yr ucheldir yn bennaf, wedi ei lleoli o fewn Conwy, Sir Ddinbych a Pharc Cenedlaethol Eryri.

Mae'r project hwn yn un o nifer o fentrau gan yr RSPB mewn amryw o ardaloedd ucheldir y DU.

Gan gymharu'r arolygon a gynhaliwyd ym 1994 a 2005, mae'n ymddangos bod y nifer o gornchwiglod wedi gostwng o oddeutu 19% o fewn ardal y project. Mae lefel brwdfrydedd y gymuned amaethyddol leol tuag at gornchwiglod yn uchel a chafwyd cyfraniadau hanfodol eisoes i gadwraeth y gornchwiglen gan nifer o ffermwyr a rheolwyr tir yn yr ardal, yn cynnwys enillydd 2006 Ymgyrch y Gornchwiglen, Mr Williams, a hefyd drwy gynlluniau lleol a chenedlaethol amrywiol.

Yn anffodus, fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod trefnweithiau a phresgripsiynau defnydd tir presennol wedi bod yn ddigon i arafu'r prinhad yn llwyr na'i wrthdroi.

Cam cyntaf y project, y gwanwyn hwn, fydd ymgymryd ag arolwg sylfaenol o ardal Hiraethog er mwyn penderfynu ar statws poblogaeth cornchwiglod sy'n magu a'r lefel o lwyddiant magu. Gan ddefnyddio'r wybodaeth hon, mae'r RSPB yn gobeithio gweithio mewn partneriaeth gyda ffermwyr i gyflawni gwaith rheoli cynefin ffafriol, megis rheoli brwyn, cynnal trefn pori priodol, ac ail-wlychu glaswelltir/creu pyllau bas neu gynnal lefelau uchel o ddwr, er mwyn darparu cyfleoedd nythu da ar gyfer cornchwiglod.

Bydd arolygon tymor nythu yn cael eu hailadrodd bob blwyddyn er mwyn mesur effeithiau unrhyw reolaeth gynefin ar lwyddiant nythu, maint y boblogaeth a chyflwr y cynefin. Byddwn hefyd yn mesur amlder ysglyfaethwyr ac, os yn bosibl, effeithiau ysglyfaethu ar lwyddiant nythu.

Gobeithir y bydd y project yn arddangos dull effeithiol o gynyddu llwyddiant nythu'r gornchwiglen mewn systemau ffermio'r ucheldir ac y gellir defnyddio hyn i dargedu cyngor a phresgripsiynau, yn cynnwys cynlluniau amaeth-amgylcheddol megis Tir Gofal.

Last modified: 31 May 2007

Bird guide