Adnabod gwybodaeth camarweiniol ar ffurf graffigolNod y gweithgaredd yma yw dangos bod gwybodaeth a gyflwynir ar ffurf graff yn gallu bod yn gamarweiniol os defnyddir graddfeydd anaddas. Mae'r gweithgaredd yn cwrdd ag amryw o anghenion Cwricwlwm Cenedlaethol 2000 (Lloegr a Chymru) ar gyfer Defnyddio, Cymhwyso a Thrin Data yng Nghyfnod Allweddol 3, yn arbennig:
Bydd athrawon yn Yr Alban yn gweld bod y gweithgaredd yma yn cefnogi Mathemateg 5-14 Trin Gwybodaeth, lefelau E-F Llinynnau: Casglu Gwybodaeth Cymerwyd y data yma o adroddiad yr RSPB/BTO "The State of the UKs Birds 1999" ac maen dangos gostyngiad ym mhoblogaeth y ddrudwen yng nghefn gwlad y DU dros gyfnod o 25 mlynedd. Dewiswyd y ddrudwen ar gyfer yr ymarfer yma oherwydd bod y rhywogaeth yn gyfarwydd ir rhan fwyaf o ddisgyblion. Mae llawer rhywogaeth arall o adar y ffermdir wedi profi gostyngiad sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, gan adlewyrchur newid mewn ymarferion ffermio sydd wedi golygu diffyg bwyd a safleoedd nythu yng nghefn gwlad. Mae drudwennod mewn ardaloedd gwledig yn gostwng oherwydd rhesymau penodol. Mae colled porfa parhaol heb ei wella (caeau gwelltog nad ydynt wedi eu trin gyda phlaladdwyr na gwrteithiau) yn golygu eu bod yn colli ffynhonnell o infertibratau a hadau iw bwyta. Yn ogystal â hyn, heuir llawer o gnydau âr bellach yn yr hydref yn hytrach nar gwanwyn, sydd yn golygu bod llai o gaeau sofl ir drudwennod fwydo ynddynt dros gyfnod y gaeaf. Adnoddau Taflunydd dros ysgwydd i gyflwynor pwnc a thrafodaeth dosbarth cyfan. Tabl Data Myfyrwyr ar gyfer dadansoddiad Amrediad Oedran Cyfnod Allweddol 3, blwyddyn 7 ac 8. Y Gweithgaredd Gellir argraffu tri graff ar gyfer y taflunydd dros ysgwydd neu fel taflen waith disgyblion. Mae pob graff yn cynrychiolir un data ond, drwy gymhwysor graddfeydd a ddefnyddir, maen ymddangos fel pa bair graffiau yn rhoi gwybodaeth syn gwrthdaro. Gan ddefnyddior graffiau a ddarparir, gofynnir ir disgyblion adnabod pa graffiau syn cynrychiolir wybodaeth a roir yn y tabl. Mae cwestiynau ychwanegol yn gofyn ir disgyblion gyfrifo newid gwirioneddol a chanrannol dros gyfnod o amser. |