Cyflwyno data mewn ffurf safonol

Yn y gweithgaredd yma mae angen i ddisgyblion ddeall a defnyddio rhifau a gyflwynir mewn gwahanol ffurfiau, rhifau cyfain, canrannau a ffurf safonol. Mae'r gweithgaredd yn cwrdd ag amryw o anghenion y Cwricwlwm Cenedlaethol (Lloegr a Chymru) ar gyfer:

Defnyddio a thrin nifer ac algebra

  • Dethol a defnyddio strategau datrys-problem addas a thechnegau effeithiol i ddatrys problemau rhifiadol ac algebraeg
  • Rhannu cyfrifiad cymhleth yn gamau mwy syml cyn ceisio ei ddatrys
  • Defnyddio algebra i fformwleiddio a datrys problem syml adnabod y newidynnau, llunio hafaliad, datrys yr hafaliad a dehonglir ateb yng nghyd-destun y broblem.
      

Rhifau ar system rhifedd

  • defnyddio eu dealltwriaeth blaenorol o gyfanrifau a gosod gwerth i ymdrin â niferoedd positif mawr mympwyol au talgrynnu i bwer o 10. 

Bydd athrawon yn Yr Alban yn gweld bod y gweithgaredd yn cefnogi Gradd Safonol Mathemateg, cyffredinol a chredyd.

Cymerwyd y wybodaeth o ddatar RSPB ar ostyngiad adar ffermdir Prydain.

Adnoddau

Taflen Gweithgareddu Myfyrwyr
Cyfrifiannell

Amrediad Oedran

Cyfnod Allweddol 4

Y Gweithgaredd

Or wybodaeth a roir yn y Daflen Gweithgareddau Myfyrwyr, mae angen i ddisgyblion gyfrifo poblogaeth gwreiddiol ai gyflwyno ar ffurf safonol.

E-mail a friend  Make a comment   Print me