Cyfrifo cyfernodau cydberthyniad

Gan ddefnyddio'r data a ddarparir mae angen i fyfyrwyr gyfrifo Cyfernodau Cydberthyniad drwy ddefnyddio gwahanol fodelau a chymharu a chyferbynu eu darganfyddiadau. Mewn gweithgareddau ymestyn mae'n ofynnol i fyfyrwyr blotio llinellau atchwel ac wedi cyfrifo hafaliad y llinell ragfynegi niferoedd poblogaethau yn y dyfodol.

Cynlluniwyd y gweithgareddau i gefnogir defnydd o TGCh mewn Mathemateg Lefel A, a Mathemateg (maer tasgau yn cydfynd yn arbennig â OCR 2001 AS/AS Modiwl Maes Llafur SI) ac Uwch (Ystadegau) yn Yr Alban.

Cymerwyd y data o adroddiad yr RSPB/BTO The State of the UKs Birds 1999. Maer adroddiad yn dangos gostyngiad llawer o rywogaethau cyffredin y DU ond maer data yn y tabl yn dangos effaith bositif mesurau cadwraeth ar boblogaeth rhywogaethau o adar ysglyfaethus o dan fygythiad. Mae pobogaethau o adar y DU wedi eu cydnabod gan y llywodraeth fel Dangosydd Ansawdd Bywyd, a gwelir twf neu ostyngiad unrhyw rywogaeth fel adlewyrchiad ar iechyd yr amgylchedd.

Adnoddau

Tabl Data Myfyrwyr
Taflen Gweithgareddau Myfyrwyr
Cyfrifiadur/cyfrifiannell

Amrediad Oedran

16+

Y Gweithgaredd

Gan ddefnyddio gwybodaeth or Tabl Data Myfyrwyr dylai myfyrwyr weithio drwyr gweithgareddau gan ddefnyddio swyddogaethau ystadegol eu gyfrifianellau neu becyn meddalwedd dewisedig.

E-mail a friend  Make a comment   Print me