Cymharu a dehongli data

I gwblhau'r gweithgaredd yma mae angen i'r disgyblion blotio a chymharu data. Mae'r gweithgaredd yn cwrdd ag amryw o anghenion y Cwricwlwm Cenedlaethol (Lloegr a Chymru) ar gyfer Defnyddio, Cymhwyso a Thrin Data yng Nghyfnod Allweddol 3, yn arbennig:

Cyfathrebu

  • Dehongli, trafod a syntheseiddio gwybodaeth a gyflwynir mewn amrywiaeth o ffurfiau.
      

Rhesymu

  • Cymhwyso rhesymu mathemategol, gan egluro a chyfiawnhau casgliadau a didyniadau.
  • Adnabod cyfyngiadau unrhyw gasgliadau, a bod amrywior casgliadau yn gallu effeithio ar ganlyniadau a gymerir o ddadansoddiad y data.
      

Prosesu a Chynrychioli Data

  • Llunio a chynhyrchu, gan ddefnyddio papur a TGCh, ddiagramau ar gyfer data parhaol, gan gynnwys graffiau llinell ar gyfer cyfres amser.
      

Dehongli a Thrafod Canlyniadau

  • Bod â dealltwriaeth sylfaenol o gydberthyniad.
      

Bydd athrawon yn Yr Alban yn gweld bod y gweithgaredd yma yn cefnogi Mathemateg 5-14 Trin Data, lefelau E-F.

Llinynnau:

Casglu Gwybodaeth
Trefnu Gwybodaeth
Arddangos Gwybodaeth
Dehongli Gwybodaeth

Cymerwyd y data o gyhoeddiadau yr RSPB Species Action Plan for Starlings' (heb ei gyhoeddi) ac A Management Guide to Birds of Lowland Farmland.

Mae gofyn ir disgyblion archwilior cysylltiad rhwng y gostyngiad yn arwynebedd tir porfa parhaol ar dirywiad ym mhoblogaeth drudwennod yng nghefn gwlad.

Mae porfa parhaol heb ei wella yn golygu caeau gwelltog a borir gan dda byw, ond nad ydynt yn cael eu haredig nag yn derbyn gwrtaith gan y ffermwyr, dros gyfnod o amser. Maer porfeydd hyn yn cynnwys llawer o bryfed a hadau ar gyfer drudwennod, a fyddain diflannu pe bair caeau yn cael eu gwella drwy ychwanegu gwrtaith a phlaladdwyr. Maer arwynebedd o dir porfa yn lleihau yn y DU, ond hefyd maer math o dir porfa syn well gan y ddrudwen (heb ei wella) hefyd yn lleihau.

Adnoddau

Tablau Data Myfyrwyr
Taflen Gweithgareddau
Papur graff
Papur dargopïo

Amrediad oedran

Cyfnod Allweddol 3, blwyddyn 9

Y Gweithgaredd

Gan ddefnyddior Tablau Data Myfyrwyr a darparir, gofynnir ir disgyblion blotior lleihad ym maint arwynebedd porfa parhaol ac, ar wahân, y gostyngiad ym mhoblogaeth y ddrudwen. Drwy gopïor graff drudwennod ar bapur dargopïo i greu troshaen, gall disgyblion gymharur tueddiadau a thrafod cysylltiadau posibl.

Gall disgyblion gyda mwy o allu ddarogan y bydd canlyniadaur tueddiad yn parhau am y pum mlynedd nesaf. 

Gall disgyblion blotior graffiau gan ddefnyddio sgiliau TGCh drwy gopïor tablau data i mewn i becyn taenlenni.

E-mail a friend  Make a comment   Print me