Defnyddio taenlenniMae'r gweithgaredd yma yn defnyddio tabl o ddata sy'n cynrychioli poblogaeth cyfnewidiol y cambig dros gyfnod o 5 mlynedd. Gofynnir i ddisgyblion gwsmereiddio'r tabl sylfaenol, i gwestiynu'r data ac i blotio mathau amrywiol o graff. Mae'r gweithgareddau yn adlewyrchu sawl gofyniad y Cwricwlwm Cenedlaethol (Lloegr a Chymru) yng Nghyfnod Allweddol 4 gan gynnwys: Dilyniannau, swyddogaethau a graffiau
Defnyddio, cymhwyso a thrin data
Bydd athrawon yn Yr Alban yn gweld bod y gweithgaredd yma yn cefnogi Gradd Safonol Cyfrifiadura, cyffredinol a chredyd. Gellir defnyddio Data Poblogaeth y Cambig mewn pecynnau taenlenni eraill (e.e. Claris); noder bod y Daflen Cyfarwyddiadau Myfyrwyr yn benodol i Excel. Efallai mai fel logor RSPB y maer cambig yn fwyaf adnabyddus. Maen rywogaeth brodorol a ddiflannodd or wlad hon yn ystod y bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg. Dechreuodd y cambig ddod yn ôl iw hen gynefin yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan orchuddiwyd tir isel yn Nwyrain Anglia â dwr fel amddiffynfa yn erbyn yr Almaenwyr. Yn fwy diweddar maer RSPB wedi eu helpu drwy greu lagwnau yn eu gwarchodfeydd natur ym Minsmere ac Ynys Havergate. Maer data yn dangos bod y cambig yn mynd o nerth i nerth, gydar boblogaeth yn tyfu o fwy na 68% ym 1997/98. Adnoddau Taflen Gweithgareddau Myfyrwyr Amrediad Oedran Cyfnod Allweddol 4 Y Gweithgaredd Darparir tabl data ar gyfer ei ddefnyddio gan fyfyrwyr, a gellir ei fwydo i daenlen Excel. Os bydd rhaid, gellir copïor data neu ei fwydo i mewn i becyn taenlen arall. Mewn cyfres o weithgareddau cyfeiriol maen ofynnol i ddisgyblion gwsmereiddior tabl data, dadansoddir data, a phlotio amrywiaeth o graffiau gan ddefnyddior adnodd Graph Wizard. Gall disgyblion mwy galluog barhaur ymarfer drwy ddarganfod hafaliad y llinell tueddiad y maent wedi ei phlotio a darogan poblogaeth tebygol y cambig yn 2010. I gefnogi dysgu gwahaniaethol, darparir Taflen Cyfarwyddiadau Myfyrwyr iw defnyddio gan ddisgyblion nad ydynt yn gybyddus ag Excel neu sydd angen arweiniad pellach. |