Ffracsiynau symlMae'r gweithgaredd yma yn cwrdd ag amryw o anghenion y Cwricwlwm Cenedlaethol (Lloegr a Chymru) yng Nghyfnod Allweddol 2 ac yn ymdrin â'r Amcanion Dysgu canlynol a ddiffiniwyd gan Ganllawiau Strategaeth Rhifedd Cenedlaethol: Blwyddyn 1 Gwanwyn, Uned 11-12 Trin Data. Amcanion Dysgu 90-93 Blwyddyn 3 hydref a haf. Ffracsiynau, Amcanion Dysgu 21, 23 Adnabod ffracsiynau uned megis ½, 1/3, ¼, 1/5, 1/10 & au
defnyddio i ddarganfod ffracsiynau siapiau a rhifau. Gwneud penderfyniadau, Amcan Dysgu 61 Dewis a defnyddio gweithrediadau addas (gan gynnwys lluosiadau a rhaniadau) i ddatrys problemau geiriol, a dulliau addas o gyfrifo: meddyliol, meddyliol gyda nodiadau, pensil a phapur. Os bydd disgyblion yn dangos diddordeb arbennig yn y gweithgaredd yma efallai yr hoffent gymryd rhan yn Sgwâr Gwyllt, arolwg bywyd gwyllt i blant a drefnir gan adran iau yr RSPB. Am ychwaneg o wybodaeth cysylltwch â: Carole McCormick Adnoddau Taflen Gweithgareddau Myfyrwyr Amrediad Oedran Cyfnod Allweddol 2, blwyddyn 3. Y Gweithgaredd Gan ddefnyddior Daflen Gweithgareddau Myfyrwyr mae angen ir disgyblion ateb cyfres o broblemau geiriol syn cynnwys cyfrifo ffracsiynau ac yna choladu eu hatebion mewn tabl. |