
Mae'r gweithgaredd yma yn cwrdd ag amryw o anghenion y Cwricwlwm Cenedlaethol (Lloegr a Chymru) yng Nghyfnod Allweddol 2 ac yn ymdrin â'r Amcanion Dysgu canlynol a ddiffiniwyd gan Ganllawiau Strategaeth Rhifedd Cenedlaethol: Blwyddyn 1 Gwanwyn, Uned 11-12 Trin Data. Amcanion Dysgu 90-93
Blwyddyn 3 hydref a haf.
Ffracsiynau, Amcanion Dysgu 21, 23
Adnabod ffracsiynau uned megis ½, 1/3, ¼, 1/5, 1/10 & au
defnyddio i ddarganfod ffracsiynau siapiau a rhifau.
Dechrau adnabod ffracsiynau syml sydd yn sawl rhan o rhywbeth
cyfan, megis ¾, 2/3, neu 3/10.
Gwneud penderfyniadau, Amcan Dysgu 61
Dewis a defnyddio gweithrediadau addas (gan gynnwys lluosiadau a rhaniadau) i ddatrys problemau geiriol, a dulliau addas o gyfrifo: meddyliol, meddyliol gyda nodiadau, pensil a phapur.
Os bydd disgyblion yn dangos diddordeb arbennig yn y gweithgaredd yma efallai yr hoffent gymryd rhan yn Sgwâr Gwyllt, arolwg bywyd gwyllt i blant a drefnir gan adran iau yr RSPB.
Am ychwaneg o wybodaeth cysylltwch â:
Carole McCormick
RSPB
The Lodge
Sandy
Swydd Bedford
SG19 2DL
01767 680551
Adnoddau
Taflen Gweithgareddau Myfyrwyr
Amrediad Oedran
Cyfnod Allweddol 2, blwyddyn 3.
Y Gweithgaredd
Gan ddefnyddior Daflen Gweithgareddau Myfyrwyr mae angen ir disgyblion ateb cyfres o broblemau geiriol syn cynnwys cyfrifo ffracsiynau ac yna choladu eu hatebion mewn tabl.
View this page online at http://www.rspb.org.uk/cymru/plant/dysgu/adnoddau/ffracsiynau_syml.asp