
Mae'r gweithgaredd yn cwrdd ag amryw o anghenion y Cwricwlwm Cenedlaethol (Lloegr a Chymru) yng Nghyfnod Allweddol 2 ac yn ymdrin â'r Amcanion Dysgu canlynol a ddiffiniwyd gan Ganllawiau Strategaeth Rhifedd Cenedlaethol:
Blwyddyn 6 Gwanwyn, Uned 7-8, Trin Data. Amcanion Dysgu 115 ac 117.
Datrys problem drwy gynrychioli, alldynnu a dehongli data mewn tablau, graffiau, siartiau a diagramau, gan gynnwys y rhai hynny a gynhyrchwyd gan gyfrifiadur, er enghraifft: graffiau llinell (e.e. ar gyfer pellter/amser, ar gyfer tabl lluosogi, graff trawsnewid, graff o barau o rifau yn adio i 8).
Bydd athrawon yn Yr Alban yn gweld bod y gweithgaredd yn cefnogi
Mathemateg 5-14
Trin Data, lefel D
Llinynnau:
Casglu Gwybodaeth
Trefnu Gwybodaeth
Arddangos Gwybodaeth
Dehongli Gwybodaeth
Maer gweithgaredd yn gofyn i ddisgyblion ddehongli data a gyflwynir ar ffurf graff ai ddefnyddio i ateb cyfres o gwestiynau.
Cymerwyd y data o adroddiad yr RSPB/BTO The State of the UKs Birds 1999 sydd yn dangos bod poblogaeth llawer o adar ysglyfaethus y DU wedi cynyddun arwyddocaol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Maer tueddiad at i fyny yma yn adlewyrchu llwyddiant mesurau cadwraeth, yn enwedig gwaharddiad plaladdwyr a lleihad mewn lladd anghyfreithlon a fun gyfrifol am ddod â llawer o rywogaethau yn agos iawn at ddifodiant yn yr 20fed ganrif.
Mae graddfa gostyngiad rhywogaethau unigol a ddangosir yn y Daflen Gweithgareddau Myfyrwyr yn adlewyrchu tueddiadau poblogaeth o 1970 hyd 1998.
Os bydd disgyblion yn dangos diddordeb arbennig yn y gweithgaredd yma efallai yr hoffent gymryd rhan yn Sgwâr Gwyllt, yr arolwg bywyd gwyllt i blant a drefnir gan adran iau yr RSPB.
Am ychwaneg o wybodaeth cysylltwch â:
Carole McCormick
RSPB
The Lodge
Sandy
Swydd Bedford
SG19 2DL
01767 680551
Adnoddau
Taflen Data Myfyrwyr
Taflen Gweithgareddau Myfyrwyr
Amrediad Oedran
Cyfnod Allweddol 2, blwyddyn 6
Y Gweithgaredd
Gan weithio or graff llinell a ddarparir ar y Daflen Data Myfyrwyr, gofynnir ir disgyblion ateb cyfres o gwestiynau sy;n ei gwneud yn ofynnol iddynt echdynnu gwybodaeth or graff. Mae Cwestiwn 10 yn gofyn iddynt echdynnu set arbennig o ddata a phlotio graff ou gwaith eu hunain, un ai ar bapur neu drwy ddefnyddio TGCh.
View this page online at http://www.rspb.org.uk/cymru/plant/dysgu/adnoddau/graffiau_llinell.asp