Gwerthusiad critigol o ragfynegiadau yn seiliedigGan ddefnyddio data a ddarparir mae angen i fyfyrwyr gwblhau dadansoddiad critigol o ragfynegiadau yn seiliedig ar fodelau mathemategol gwahanol gan asesu addasrwydd a chywirdeb pob un. Cynlluniwyd y gweithgareddau i gefnogir defnydd o TGCh yn Lefel A Mathemateg, a Mathemateg, Uwch (Ystadegau) yn Yr Alban. Cymerwyd y data o Arolwg Adar y Gwlyptir 1997/98 ac maen dangos gostyngiad yn y nifer o hwyaid gwylltion syn gaeafu yn y DU. Mewn cyfnod pan mae llawer o rywogaethaur gwlyptir yn ffynnu mae poblogaeth yr hwyaden wyllt yn y gaeaf wedi gostwng o 40% yn y deng mlynedd diwethaf; er nad ywr rhesymau am hyn yn wybyddus maer rhywogaeth yn cael ei fonitron fanwl. Mae poblogaeth adar y DU wedi ei gydnabod gan y llywodraeth fel Dangosydd Ansawdd Bywyd, a gwelir twf neu ostyngiad unrhyw rywogaeth fel lewyrchiad o iechyd yr amgylchedd. Adnoddau Tabl Data Myfyrwyr Amrediad Oedran 16+ Y Gweithgaredd Dylid bwydor wybodaeth yn y Tabl Data Myfyrwyr i daenlen Excel neu becyn meddalwedd addas arall. Yna, gall myfyrwyr weithio drwyr gweithgareddau gan ddefnyddio cyfleusterau graff eu pecyn meddalwedd dewisedig. |