
Gan ddefnyddio data a ddarparir mae angen i fyfyrwyr gwblhau dadansoddiad critigol o ragfynegiadau yn seiliedig ar fodelau mathemategol gwahanol gan asesu addasrwydd a chywirdeb pob un.
Cynlluniwyd y gweithgareddau i gefnogir defnydd o TGCh yn Lefel A Mathemateg, a Mathemateg, Uwch (Ystadegau) yn Yr Alban.
Cymerwyd y data o Arolwg Adar y Gwlyptir 1997/98 ac maen dangos gostyngiad yn y nifer o hwyaid gwylltion syn gaeafu yn y DU. Mewn cyfnod pan mae llawer o rywogaethaur gwlyptir yn ffynnu mae poblogaeth yr hwyaden wyllt yn y gaeaf wedi gostwng o 40% yn y deng mlynedd diwethaf; er nad ywr rhesymau am hyn yn wybyddus maer rhywogaeth yn cael ei fonitron fanwl.
Mae poblogaeth adar y DU wedi ei gydnabod gan y llywodraeth fel Dangosydd Ansawdd Bywyd, a gwelir twf neu ostyngiad unrhyw rywogaeth fel lewyrchiad o iechyd yr amgylchedd.
Adnoddau
Tabl Data Myfyrwyr
Taflen Gweithgareddau Myfyrwyr
Cyfrifiadur
Amrediad Oedran
16+
Y Gweithgaredd
Dylid bwydor wybodaeth yn y Tabl Data Myfyrwyr i daenlen Excel neu becyn meddalwedd addas arall. Yna, gall myfyrwyr weithio drwyr gweithgareddau gan ddefnyddio cyfleusterau graff eu pecyn meddalwedd dewisedig.
View this page online at http://www.rspb.org.uk/cymru/plant/dysgu/adnoddau/gwerthusiad_critigol.asp