
Mae'r gweithgaredd yma yn cwrdd ag amryw o anghenion y Cwricwlwm Cenedlaethol (Lloegr a Chymru) yng Nghyfnod Allweddol 2 ac yn ymdrin â'r Amcanion Dysgu canlynol a ddiffiniwyd gan ganllawiau Strategaeth Rhifedd Cenedlaethol ar gyfer Lloegr:
Blwyddyn 3 Gwanwyn, Uned 13, Trin Data.
Amcanion Dysgu 91 a 93
Datrys problem a roir drwy drefnu a dehongli data rhifiadol mewn rhestrau, tablau a graffiau syml, er enghraifft . . . pictogramau symbol yn cynrychioli dau uned.
Bydd athrawon yn Yr Alban yn gweld bod y gweithgaredd yn cefnogi
Mathemateg 5-14
Trin Gwybodaeth, lefelau C-D
Llinynnau:
Casglu Gwybodaeth
Trefnu Gwybodaeth
Arddangos Gwybodaeth
Dehongli Gwybodaeth
Yn y gweithgaredd mae angen i ddisgyblion ddehongli gwybodaeth a gyflwynir ar ffurf pictogram a mynegi data newydd yn yr un ffurf.
Cymerwyd y data o adroddiad yr RSPB/BTO The State of the UKs Birds 1999 sydd yn dangos bod poblogaeth llawer o adar cân mwyaf cyffredin y DU wedi gostwng yn sydyn yn ystod y 30 mlynedd diwethaf. Maer graddfa o ostyngiad y gwahanol rywogaethau a ddangoswyd yn y Daflen gweithgareddau Myfyrwyr wedi ei dalgrynnu i fyny neu i lawr ar gyfwr pwrpas yr ymarfer yma ond maer tueddiadau yn fanwl gywir.
Os bydd disgyblion yn dangos diddordeb arbennig yn y gweithgaredd yma efallai yr hoffent gymryd rhan yn Sgwâr Gwyllt, arolwg bywyd gwyllt i blant a drefnir gan adran iau yr RSPB.
Am ychwaneg o wybodaeth cysylltwch â:
YOC/Y DU Wyllt 2000 (UK Wild 2000)
The Lodge
Sandy
Swydd Bedford
SG19 2DL
Adnoddau
Taflen Data Myfyrwyr
Amrediad Oedran
Cyfnod Allweddol 2, blwyddyn 3.
Y Gweithgaredd
Gan ddefnyddior pictogram ar y Daflen Gweithgareddau Myfyrwyr, gofynnir ir disgyblion ateb cyfres o gwestiynau am amlder cymharol gwahanol rywogaethau o adar tran ymweld â bwrdd adar. Or ystadegau a ddarparir, mae angen ir disgyblion lunio pictogram newydd yn dangos y nifer o adar a all ymweld wedi cyfnod o ostyngiad yn y boblogaeth.
Gellir ymestyn y gweithgaredd yma i gynnwys casglu data; dylai disgyblion gofnodi nifer a rhywogaeth yr adar sydd yn ymweld â bwrdd adar neu lecyn tebyg wedi ei ddiffinio dros gyfnod o amser ac yna paratoi eu pictogramau eu hunain. Ystyriwch rannur dosbarth yn grwpiau bychain i gofnodi ymweliadau mewn cyfnodau o 10 munud, i arbed diflastod. Bydd darparu bwyd addas i adar gwyllt yn sicrhau digonedd o ymwelwyr.
View this page online at http://www.rspb.org.uk/cymru/plant/dysgu/adnoddau/pictogramau.asp