Trefnu a defnyddio data

Mae'r gweithgaredd yn cwrdd ag amryw o anghenion y Cwricwlwm Cenedlaethol (Lloegr a Chymru) yng Nghyfnod Allweddol 1 ac yn ymdrin â'r Amcanion Dysgu canlynol a ddiffiniwyd gan Ganllawiau Strategaeth Rhifedd Cenedlaethol ar gyfer Lloegr: Blwyddyn 1 Gwanwyn, Uned 11-12 Trin Data. Amcanion Dysgu 90-93

Trefnu a defnyddio data
Datrys problem a roir drwy ddidoli, dosbarthu a threfnu gwybodaeth mewn ffyrdd syml, megis:

  • Mewn rhestr neu dabl syml
  • Mewn pictogram
  • Mewn graff bloc
       

Bydd athrawon yn Yr Alban yn gweld bod y gweithgaredd yn cefnogi Mathemateg 5-14
Trin Data, lefelau A-C

Llinynnau:
Casglu Gwybodaeth
Trefnu Gwybodaeth
Arddangos Gwybodaeth
Dehongli Gwybodaeth

Gofynnir i ddisgyblion gofnodi a threfnu data a ddarparir ar ffurf darlun ac yna iw gyflwyno fel graff addas. Mae gweithgareddau ymestyn yn awgrymu gwylio adar yn fyw a defnydd o TGCh (Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu).

Os bydd disgyblion yn dangos diddordeb arbennig yn y gweithgaredd yma efallai yr hoffent gymryd rhan yn Sgwâr Gwyllt, arolwg bywyd gwyllt i blant a drefnir gan adran iau yr RSPB. Am ychwaneg o wybodaeth cysylltwch â:

Carole McCormick
RSPB
The Lodge
Sandy
Swydd Bedford
SG19 2DL
01767 680551

Adnoddau

Taflen Gweithgareddau Myfyrwyr

Amrediad Oedran

Cyfnod Allweddol 1, blwyddyn 2.

Y Gweithgaredd

Darparir gwybodaeth ar ffurf darlun y gellir ei roi ir disgyblion neu ei argraffu ar gyfer taflunydd dros ysgwydd iw ddefnyddio mewn sesiwn dysgu dosbarth cyfan. Dylai disgyblion goladur data or darlun, cyfrifo amlder ymweliadau adar, ateb cyfres o gwestiynau a chyflwynor wybodaeth fel graff bloc neu bictogram.

Gall athrawon sydd yn dymuno treulio mwy o amser ar y gweithgaredd yma ofyn ir disgyblion gasglu data real o fwrdd adar yr ysgol neu safle tebyg. Gellir defnyddior data a gasglwyd fel hyn ar gyfer gweithgareddau tebyg gan ddefnyddio TGCh. Gweler Cynllunio a Thechnoleg Cynradd (RSPB) am gyfarwyddiadau ar sut i adeiladu bwrdd adar a bwydwyr adar mewn gwersi cynllunio a thechnoleg; gweler Primary Design and Technology (RSPB); Adar yn y Cwricwlwm Cynradd am amrediad eang o syniadau am wersi.

E-mail a friend  Make a comment   Print me