Ar frig y gadwyn
Fel arfer yr ysglyfaethwyr sydd ar frig y gadwyn fwyd yw’r anifeiliaid mwyaf ynddi. Ambell waith gelwir y rhain yn ysglyfaethwyr apig (sy’n golygu ‘ar y brig’). Fel arfer nid oes dim byd arall yn eu bwyta hwy. Yn y DU, mae llwynogod, dyfrgwn, tylluanod ac eryrod ymysg yr ysglyfaethwyr apig. Mae gan ecosystemau eraill o amgylch y byd ysglyfaethwyr apig mwy eto, yn cynnwys llewod, eirth gwynion a siarcod gwynion enfawr. Cofiwch, gall ambell i gadwyn fwyd fod yn fyr iawn. Mae eliffantod yn enfawr, ond maent ar yr ail lefel oherwydd nid ydynt yn bwyta dim ond planhigion. Rheoli’r dorfMae ysglyfaethwyr yn rheoli cadwyn fwyd o’r brig. Maent yn cadw’r nifer o lysysyddion i lawr, fel nad yw bwyd ar ffurf planhigion yn cael ei fwyta i gyd, ac maent yn cadw’r boblogaeth o brae yn iach drwy gymryd rhai hen neu sy’n sâl. Gall difa ysglyfaethwyr achosi trychineb. Un tro ceisiodd helwyr yn UDA gynyddu poblogaeth ceirw drwy saethu’r blaidd a’r piwma. Wedi diflaniad eu hysglyfaethwyr, cynyddodd y ceirw’n rhy gyflym gan fwyta eu bwyd i gyd. Diflannodd y ceirw, yn ogystal â nifer o greaduriaid eraill a oedd yn rhannu eu cynefin. A cheisiwch ddyfalu beth fyddai’n digwydd pe baem yn colli’r dadelfenyddion i bydru’r holl greaduriaid nad ydynt yn cael eu bwyta – byddem at ein penliniau mewn pethau marw cyn i chi droi rownd! Dim lle ar y brigI sicrhau bod digon o fwyd i bawb, mae ysglyfaethwyr mawr yn byw’n ddigon pell oddi wrth ei gilydd. Er enghraifft, mae’r eryr aur yn bwyta grugieir ac ysgyfarnogod, ond nifer cyfyngedig o’r creaduriaid yma a geir yn eu cynefin mynyddig. Felly gall un pâr o eryrod aur amddiffyn arwynebedd o fwy na 100 cilomedr sgwâr. Ni fyddant yn caniatáu i unrhyw eryrod eraill ddod i mewn i’w cynefin, oherwydd byddent yn cystadlu am y bwyd sydd ar gael. |