Biomas

Beth yw biomas? Biomas yw swm y deunydd o ran planhigion ac anifeiliaid sydd mewn unrhyw ecosystem. 

Mewn cadwyn fwyd, bydd gan blanhigyn neu anifail fwy o biomas bob amser na’r anifeiliaid a ddaw ar ei ôl.

Swnio’n gymhleth? Efallai y bydd y diagram hwn yn eich helpu:

Biomass
View at full size

Pam fod biomas yn bwysig? Mae biomas yn dweud wrthym faint o ddeunydd sydd yna ar bob lefel mewn cadwyn fwyd. Er na wnaiff gwalch glas byth fwyta deilen ei hun, mae biomas yn dangos i ni bod angen nifer enfawr o ddail yn y goedlan i alluogi’r gwalch glas i oroesi.

E-mail a friend  Make a comment   Print me