Chwilio am gadwyni bwyd
Mae cadwyni bwyd ym mhob man. Ond nid oes raid i chi grwydro trwy goedwig neu blymio i bwll i weld un ar waith. Edrychwch o gwmpas eich cartref neu eich ysgol i weld pwy sy’n bwyta pwy. Bwyd yr arddMae gwylio adar eich gardd yn ffordd dda o ddechrau. Gwyliwch yn ofalus i weld pwy sy’n bwyta beth. Mae’n well gan y llinos werdd a’r aderyn y to fwyta hadau, ond mae’r robin goch a’r llwyd y gwrych yn hoffi pryfed. Mae’r fwyalchen yn tynnu pryfed genwair/mwydod o’r lawnt, ond maent hefyd yn mwynhau afalau a osodir ar y ddaear yn ystod y gaeaf. Byrbrydau yn yr ysgolEdrychwch pwy sy’n bwyta beth o amgylch eich ysgol. Yn yr haf, fe welwch wylanod penddu yn cylchu uwchben wrth ddal morgrug hedegog. Yn y gaeaf, efallai byddant yn sathru eu traed ar gae lleidiog, i ddod â phryfed genwair/mwydod blasus i’r wyneb. A chadwch lygad ar y brain. Sawl peth gwahanol maent hwy yn eu bwyta? Crwydro'r strydoedd
Peidiwch ag edrych nawr, ond mae ysglyfaethwr wrth eich ymyl chi! Efallai mai gwalch glas sy’n stelcian yn eich cymdogaeth (maent yn hela’n aml mewn gerddi yn ogystal â choedlannau). Neu efallai mai broga neu ddraenog sy’n chwilio am bryfed genwair/mwydod a gwlithod. Ac os clywch chi gaead bin sbwriel yn cwympo yn y nos, efallai mai ein hysglyfaethwr mwyaf sydd ar waith – y llwynog/cadno! Mae’r creadur hwn yn arbenigwr ar fyw mewn tref neu ddinas. Os oes hen esgyrn ar gael mewn bin sbwriel, pam ddylai’r llwynog redeg ar ôl cwningod? Creu gweCeisiwch ysgrifennu enwau’r holl anifeiliaid gwahanol sy’n byw wrth eich ymyl. Bydd unrhyw beth yn briodol – o’r fuwch goch gota i’r wiwer. Defnyddiwch ddarn mawr o bapur, yna gallwch weld faint ohonynt y gallwch eu cysylltu â’i gilydd yn ôl yr hyn maent yn ei fwyta. Cyn bo hir byddwch wedi creu gwe fwyd. Pob tro y byddwch yn ychwanegu anifail newydd, ceisiwch ei gysylltu â’r we. Gallwch greu un gwe ar gyfer eich ysgol ac un ar gyfer eich cartref. |