|
|
Cymorth gan bawb Bydd pwll yn cyflwyno gwe fwyd tanddwr cyfan i'ch gardd neu dir eich ysgol
Mae natur o dan bwysau. Mae lledaeniad trefi a ffyrdd yn dinistrio llawer o gynefinoedd, tra bod gwrychoedd a dolydd yn diflannu o gefn gwlad. Mae hyn yn golygu bod cadwyni bwyd yn cael eu dinistrio a llai o fywyd gwyllt, ond mae dulliau syml yn bodoli i’ch galluogi chi i helpu i adennill y cydbwysedd. Creu eich gwarchodfa natur fechan eich hunGall eich ysgol neu eich gardd fod yn warchodfa natur fechan. Ni fyddwch angen llawer o le. Y cwbl sydd ei angen yw neilltuo ychydig o le ar gyfer bywyd gwyllt. Cofiwch sicrhau caniatâd oedolion yn gyntaf. Dyma rai syniadau: - Creu twr o foncyffion. Mae boncyffion sy’n pydru yn berffaith ar gyfer anifeiliaid sy’n tyllu, fel larfâu chwilod, a dadelfenyddion fel pryfed lludw. Gallant hefyd fod yn gartref i greaduriaid y ddaear fel y broga a’r cantroed.
- Gadewch lain yn wyllt. Peidiwch â chael gwared â’ch holl chwyn gardd. Mae planhigion gwyllt yn darparu bwyd ar gyfer llawer o anifeiliaid – o’r nico (sy’n bwyta hadau’r ysgall) i’r glöyn byw y paun (mae eu lindys yn bwyta danadl poethion).
- Cofiwch fwydo’r adar. Gallwch greu ffynhonnell o fwyd wedi i fwyd naturiol yr adar ddiflannu o gefn gwlad. Rhowch gynnig ar fwyd ynni-uchel fel hadau blodau’r haul neu deisenni braster. Nid ydych angen gardd; gallwch osod bwydwyr ar ffenestri. Bydd adar yn siwr o ddod o hyd iddynt! Cofiwch feddwl hefyd faint o adar ac anifeiliaid y gallwch eu denu drwy fwydo i mewn i wahanol lefelau yn eich cadwyni bwyd.
- Cloddio pwll. Mae pyllau (os oes gennych le iddynt) yn cyflwyno gwe fwyd tanddwr cyfan i ecosystem eich gardd. Maent hefyd yn darparu dwr yfed i adar, ac yn denu rhywogaethau newydd fel y llyffant, y gwas y neidr a’r crëyr glas.
- Rheoli cathod. Nid yw cathod yn rhan naturiol o’r gadwyn fwyd. Ni a’u cyflwynodd, ac erbyn hyn nid yw ein bywyd gwyllt yn gallu dygymod â hwy. Ceisiwch gyfyngu ar reddf hela naturiol eich cath: cofiwch leoli bwydwyr adar lle nad oes modd iddi eu cyrraedd; cadwch eich cath yn y ty yn ystod y gwanwyn (adeg cywion); a pheidiwch â gadael iddi fynd allan gyda’r gwyll.
Mae llawer o syniadau am ddulliau i helpu bywyd gwyllt yng nghynllun Gweithredu dros Fywyd Gwyllt yr RSPB. Defnyddiwch y cyswllt ar y dudalen hon i gael mwy o wybodaeth. Baeddu’ch dwyloMae cyrff cadwraeth yn gweithio i adfer cydbwysedd byd natur. Maent yn mynd i’r afael â gorchwylion fel torri planhigion estron, cloddio pyllau a phlannu coed brodorol. Chwiliwch am un yn eich ardal chi, yna ymunwch ac ewch ati i faeddu’ch dwylo!
|
|