Cymorth gan bawb

Mae natur o dan bwysau. Mae lledaeniad trefi a ffyrdd yn dinistrio llawer o gynefinoedd, tra bod gwrychoedd a dolydd yn diflannu o gefn gwlad. Mae hyn yn golygu bod cadwyni bwyd yn cael eu dinistrio a llai o fywyd gwyllt, ond mae dulliau syml yn bodoli i’ch galluogi chi i helpu i adennill y cydbwysedd.

Creu eich gwarchodfa natur fechan eich hun

Gall eich ysgol neu eich gardd fod yn warchodfa natur fechan.  Ni fyddwch angen llawer o le.  Y cwbl sydd ei angen yw neilltuo ychydig o le ar gyfer bywyd gwyllt.  Cofiwch sicrhau caniatâd oedolion yn gyntaf.  Dyma rai syniadau: 

Mae llawer o syniadau am ddulliau i helpu bywyd gwyllt yng nghynllun Gweithredu dros Fywyd Gwyllt yr RSPB.  Defnyddiwch y cyswllt ar y dudalen hon i gael mwy o wybodaeth.

Baeddu’ch dwylo

Mae cyrff cadwraeth yn gweithio i adfer cydbwysedd byd natur. Maent yn mynd i’r afael â gorchwylion fel torri planhigion estron, cloddio pyllau a phlannu coed brodorol. Chwiliwch am un yn eich ardal chi, yna ymunwch ac ewch ati i faeddu’ch dwylo!

View this page online at http://www.rspb.org.uk/cymru/plant/dysgu/cadwynibwyd/cymorthganbawb.asp