Dadelfenyddion
Nid yw pob dim mewn cadwyn fwyd yn cael ei fwyta. Mae llawer o blanhigion ac anifeiliaid yn marw ymhell cyn iddynt ddod yn bryd o fwyd i rywun arall. Hefyd, mae coed yn gollwng eu hen ddail ac mae anifeiliaid yn gadael baw sy’n cynnwys y rhannau o’u bwyd nad oes modd eu treulio – fel ffibrau planhigion neu esgyrn. Yn ôl i’r dechrauMae’r holl ddefnydd marw hwn wedi colli ei ynni. Ni all dyfu ddim mwy. Ond mae’n dal yn hanfodol i fywyd, oherwydd mae’n cynnwys y cemegau sydd yn flociau adeiladu sylfaenol i bob peth byw. Mae’r cemegau hyn yn cael eu hailgylchu i’r gadwyn fwyd gyda chymorth organebau o’r enw dadelfenyddion. Ei dorri i lawrOrganebau sy’n torri planhigion neu anifeiliaid marw i lawr i’r sylweddau y mae planhigion eu hangen ar gyfer tyfu yw dadelfenyddion. Gwahanol ddadelfenyddionMae llawer gwahanol fath o ddadelfenydd. Mae pob un yn helpu i ailgylchu bwyd yn ei ffordd ei hun. Mae ffwng yn rhyddhau cemegau i dorri planhigion neu anifeiliaid i lawr i sylweddau syml. Maent yn amsugno rhywfaint o’r sylweddau hyn ar gyfer tyfiant, ond mae eraill yn mynd i’r pridd. Mae pryfed genwair/mwydod yn treulio defnydd planhigion ac anifeiliaid sy’n pydru wrth iddynt lyncu pridd. Mae’r gwastraff a ddaw allan y pen arall yn cynnwys y mineralau pwysig, yn barod i blanhigion eu defnyddio unwaith eto. Organebau bychain, microsgopig yw bacteria. Mae rhai mathau yn byw ar bethau byw eraill – er enghraifft, mae miliynau yn eich coluddion yn eich helpu chi i dreulio eich bwyd. Mae eraill yn byw ar bethau marw, ac yn eu helpu i’w torri i lawr i’r mineralau yn y pridd. Dadelfenyddion yn y gadwyn fwydDyma sut y mae cadwyn fwyd y goedlan yn edrych pan fyddwch yn ychwanegu dadelfenyddion: |