Dal bwydNid yw pob anifail yn hoff o fwyta planhigion. Mae llawer yn cael eu bwyd drwy fwyta anifeiliaid eraill. Gelwir yr anifeiliaid hyn yn ysyddion eilradd, oherwydd hwy yw’r ail gam ysyddio yn y gadwyn fwyd. Gelwir anifeiliaid sy’n bwyta ysyddion eilradd yn ysyddion trydyddol, oherwydd hwy yw’r trydydd cam ysyddio yn y gadwyn fwyd. Cadwyn anifeiliaidDengys y gadwyn fwyd hon o’r goedlan sut mae’r ysyddion gwahanol wedi eu cysylltu â’i gilydd. Mae’r lindys yn bwyta planhigyn, felly mae’n ysydd cynradd. Mae’r titw tomos las yn bwyta’r lindys, felly mae’n ysydd eilradd. Mae’r gwalch glas yn bwyta’r titw tomos las, felly mae’n ysydd trydyddol. Bwyta ym mhob manMae anifeiliaid yn bwyta ei gilydd ym mhob man. Mae’n debyg ei fod yn digwydd wrth eich ymyl chi yr eiliad hon: efallai fod pryf copyn yn bwyta pryf ar eich nenfwd, neu dwrch daear yn bwyta pryf genwair/mwydyn o dan wyneb eich lawnt. Ond peidiwch ag anghofio, er nad yw’r anifeiliaid hyn yn cnoi cneuen neu’n porthi ar ddeilen, planhigion yw ffynhonnell eu bwyd serch hynny, gan mai hwy â’i creodd i ddechrau. Adar llwglyd
Mae bron pob math o anifail yn damaid o fwyd i ryw fath o aderyn. Mae’r gwybedog yn dal pryfed, mae’r glas y dorlan yn trywanu pysgod ac mae’r cudyll coch yn dal llygod. Wrth gwrs, anifeiliaid yw adar hefyd, felly mae llawer ohonynt yn bryd o fwyd i rywun arall. Mae’r wenci, nadroedd a’r llwynog/cadno i gyd yn bwyta adar – yn ogystal ag adar eraill, yn cynnwys gweilch, tylluanod a gwylanod. Newid lleGall safle aderyn yn y gadwyn fwyd amrywio yn ôl yr hyn mae’n ei fwyta. Er enghraifft, pan fydd titw tomos las yn bwyta hadau mae’n ysydd gynradd. Ond pan fo’n bwyta lindys, mae’n ysydd eilradd oherwydd mae’r lindys eisoes wedi bwyta planhigyn. |