Dod o hyd i fwyd
Ni all yr un anifail fyw heb fwyd. Mae bwyd yn cynnwys blociau adeiladu bywyd, yn cynnwys proteinau ar gyfer tyfiant, mineralau ar gyfer iechyd a startsh ar gyfer ynni. Heb fwyd, ni all anifail dyfu ac nid oes ganddo ynni i symud. Yn gryno, heb fwyd, bydd anifail yn marw. Pryd ar gludNi all anifeiliaid wneud eu bwyd eu hunain fel y gall planhigion. Felly mae’n rhaid iddynt fwyta organebau eraill. Mae planhigion eisoes wedi gwneud y gwaith dygn. Mae’r bwyd a wnaed ganddynt bellach yn barod i anifeiliaid ei gludo oddi yno. Gelwir anifeiliaid sy’n bwyta planhigion yn ysyddion cynradd, oherwydd hwy yw’r ysyddion cyntaf (cynradd) yn y gadwyn fwyd. Bwytawyr planhigionMae llawer o anifeiliaid yn bwydo ar blanhigion yn unig. Mai rhai pryfed, fel lindys, yn bwyta dail. Mae eraill, fel pryfed gleision, yn sugno sudd planhigion, sef y nodd. Mae mamaliaid bychain, fel llygod neu wiwerod, yn cnoi cnau ac aeron. Gall anifeiliaid mwy, fel cwningod a cheirw, bori ar laswellt. Adar llysieuol
Mae llawer o adar yn bwyta planhigion. Mae rhai, fel y pincod neu’r colomennod, yn bwyta hadau neu grawn yn bennaf. Mae eraill, fel y fwyalchen, yn mwynhau ffrwythau ac aeron. Gall ychydig, fel ysgrech y coed, fynd i’r afael â chnau caled fel mes. Ychydig o adar sy’n bwyta dail. Mae’n well ganddynt rannau mwy maethlon planhigion, fel yr hadau a’r ffrwythau, sy’n rhoi ynni ychwanegol iddynt ar gyfer hedfan. Trosi bwydNid yw bwyd o blanhigyn yn dod mewn ffurf sy’n briodol i anghenion anifail. Felly mae corff yr anifail yn torri’r bwyd i lawr i sylweddau mwy syml – megis startsh i siwgr a phrotein i asidau amino. Dyma beth sy’n digwydd wrth dreulio; mae’n debyg eich bod yn gwneud hynny’r eiliad hon! Yna gall yr anifail ddefnyddio’r sylweddau hyn i barhau’n heini a bywiog ac i adeiladu defnyddiau sy’n helpu ei gorff ei hun i dyfu. |