Drysu'r cydbwyseddGall difrod i unrhyw ran o gadwyn fwyd beri problemau ar ei hyd. Os nad oes llwybrau eraill drwy’r we fwyd, mae’n bosibl y bydd pob dim ar frig y gadwyn mewn perygl. Dyma’r hyn yr arferai pobl ei alw’n ‘drysu cydbwysedd natur’. Ambell dro rhywbeth naturiol sy’n achosi hyn, ond yn aml bai bobl ydyw. Byd heb blanhigionAllwch chi ddychmygu byd heb blanhigion? Mae gwyddonwyr yn credu bod hyn wedi digwydd 65 miliwn o flynyddoedd yn ôl, pan fu i seren wib daro’r Ddaear. O ganlyniad i’r llwch a grëwyd gan y gwrthdrawiad, nid oedd golau’r haul yn cyrraedd y ddaear, felly bu farw pob planhigyn. Felly, nid oedd bwyd i anifeiliaid, ac yn fuan iawn diflannodd llawer ohonynt – yn cynnwys y deinosoriaid – o’r ddaear. Pe bai pobl wedi bod o gwmpas bryd hynny, byddem ninnau hefyd wedi diflannu. Ni all unrhyw beth oroesi heb ynni (ar ffurf gwres a golau) o’r haul. Cadwyn o wenwynYn yr 1960au, aeth yr hebog tramor yn hynod o brin. Y rheswm am hyn oedd chwistrell cnydau i ladd pryfed o’r enw DDT. Nid yw’r hebog tramor yn bwyta pryfed na chnydau, ond mae’n bwyta adar eraill sy’n gwneud hynny. Pan oedd colomennod yn bwydo ar gnydau a oedd wedi eu chwistrellu, roedd y cemegyn gwenwynig yn mynd i’w cyrff. Roedd pob colomen a fwytawyd gan yr hebog tramor yn ei wenwyno dipyn bach mwy bob tro. Nid oedd DDT yn lladd yr hebog tramor, ond roedd yn rhwystro i’w hwyau ddeor, ac felly nid oedd llawer ohonynt yn gallu magu cywion. Mae’r hebog tramor wedi dod yn fwy cyffredin ers gwahardd DDT. Trychineb ar y môr
Yn 2004, cafodd llawer o adar môr Prydain flwyddyn drychinebus. Ar y Fair Isle, lle bydd miloedd o wylogod yn nythu fel arfer, ni lwyddodd yr un cyw i adael y nyth. Roedd llymrïaid – eu prif fwyd – wedi diflannu. Y rheswm am hyn yn rhannol oedd bod cynnydd yn nhymheredd y môr wedi lladd eu bwyd, ac yn rhannol oherwydd bod pobl yn dal gormod ohonynt mewn rhwydi enfawr. Gan fod y llymrïaid wedi diflannu, roedd y gadwyn fwyd wedi ei thorri, gan adael adar môr i ddioddef. Ymosodiad gan estroniaidPan fo pobl yn symud planhigion ac anifeiliaid i gynefin lle nad ydynt yn perthyn, gall achosi trychineb drwy ddinistrio gwe fwyd gymhleth sydd wedi datblygu dros filoedd o flynyddoedd. Mae minc America yn ysglyfaethwyr ffyrnig, a dihangodd rhai o ffermydd ffwr yn y DU. Maent wedi creu dinistr ofnadwy, gan ladd anifeiliaid brodorol fel llygod pengrwn y dwr a rheibio nythod adar fel hwyaid a gwyachod. |