Gwahanol leoedd

Blackbird
Mae'r fwyalchen yn gartrefol iawn yn ein gerddi, lle gall ddod o hyd i bryfed genwair/mwydod blasus yn y glaswellt

Mae pob organeb – yn cynnwys adar – yn byw mewn cymunedau o bethau byw, o’r enw ecosystemau. Mae ecosystem yn cynnwys yr holl blanhigion ac anifeiliaid sy’n byw mewn cynefin neilltuol. Mae’r cynefin yn cynnwys rhannau nad ydynt yn fyw hefyd, fel pridd, golau’r haul, dwr ac awyr. Mae’r pethau byw i gyd yn dibynnu ar ei gilydd am eu bwyd. Mae cadwyni bwyd yn eu cysylltu â’i gilydd.

Adar yn y system

Mae llawer gwahanol fath o gynefin yn y DU. Mae gwahanol anifeiliaid a phlanhigion wedi addasu i fyw ym mhob un, gan ffurfio eu hecosystemau eu hunain. Mae adar yn rhan o’r drefn hon ac mae cadwyni bwyd yn eu cysylltu â’r anifeiliaid a’r planhigion eraill sy’n byw yn yr ecosystem. 

E-mail a friend  Make a comment   Print me