|
|
Gwe bywydMae cadwyn fwyd yn dangos i chi ar bapur bwy sy’n bwyta beth mewn ecosystem. Ond ym mywyd bob dydd nid yw mor syml â hynny. Mae pob ecosystem yn cynnwys miloedd o wahanol gadwyni bwyd, i gyd yn gysylltiedig. Cadwyni yn glymauEdrychwch eto ar y gadwyn fwyd syml hon.  View at full size
Mae’n ymddangos yn ddigon syml yn dydy? Ond edrychwch yn agosach. Ar bob dolen yn y gadwyn, mae’n torri ar draws cadwyni eraill. Er enghraifft: - Nid y lindys yn unig sy’n bwyta’r ddeilen hon; mae llawer gwahanol fath arall o bryfyn hefyd. Mae llawer hefyd yn bwyta planhigion eraill.
- Mae’r titw tomos las yn bwyta’r lindys. Ond mae llawer o adar eraill yn bwyta lindys hefyd, fel y titw mawr, yn ogystal ag anifeiliaid eraill fel y llyg a phryfed cop. Mae pob un o’r rhain hefyd yn bwyta pryfed eraill.
- Mae’r titw tomos las hefyd yn bwyta llawer o bryfed eraill, yn ogystal â phryfed cop, hadau ac aeron. Fel arall byddai’n llwgu pam na fyddai lindys o gwmpas.
- Nid y gwalch glas yn unig sy’n bwyta’r titw tomos las. Mae llawer o ysglyfaethwyr eraill hefyd yn eu bwyta, yn cynnwys y wenci, tylluanod (yn y nos) a hyd yn oed y gnocell fraith fwyaf, sydd yn bwyta’r cywion.
- Ac nid y titw tomos las yn unig y mae’r gwalch glas yn ei fwyta. Mae hefyd yn bwyta adar eraill, fel y ji-binc, y fwyalchen a hyd yn oed yr ysguthan.
Welwch chi? Wrth feddwl am y peth, mae’n mynd yn fwy a mwy cymhleth! Ei ddal mewn gweMae pob aelod o un gadwyn fwyd yn rhan o lawer o gadwyni bwyd eraill yr un pryd. Mae hyn yn ffurfio gwe gymhleth o gysylltiadau o’r enw gwe fwyd. Mae gwe fwyd syml coedlan dderw yn edrych fel hyn:  View at full size
|
|