Cadwyni bwyd

Blue tit on seed feeder

Mae pob creadur byw yn bwyta rhywbeth i gael ynni i fyw a thyfu. Ond ym mhle a sut mae'r broses yn cychwyn? Ac ym mha fodd y mae ynni yn cael ei drosglwyddo o'r bwyd i'r bwydwr? - drwy gyfrwng cadwyn fwyd.

Pwy sy’n bwydo bwy?

Nid oes pwrpas o gwbl mewn gosod hadau adar ar gyfer y gwalch glas, nag oes? Wel, efallai nad ydych yn gwbl gywir. Wrth gwrs, ar gyfer adar bychain fel y titw tomos las mae hadau adar. Ond mae’r gwalch glas yn gorfod bwyta hefyd. A’u hoff fwyd – ie, dyna chi – yw adar bychain fel y titw tomos las. Felly, pwy a wyr? Drwy fwydo’r titw tomos las, efallai eich bod hefyd yn helpu’r gwalch glas.

Cysylltiadau bwyd

I oroesi a thyfu, mae’r gwalch glas yn bwyta adar bychain. Yn eu tro, mae llawer o adar bychain yn bwyta hadau.  Daw hadau o blanhigion, fel blodau’r haul, sy’n cynhyrchu eu bwyd eu hunain gan ddefnyddio golau’r haul.  Felly, mewn ffordd, mae blodyn yr haul, y titw tomos las a’r gwalch glas i gyd yn gysylltiedig â’i gilydd drwy gyfrwng bwyd.  Maent yn ffurfio math o gadwyn, sy’n cychwyn gyda’r haul. Gelwir hon yn gadwyn fwyd. Mae’n edrych fel hyn:

Cymryd camau

Food chain
View at full size

Mae pob peth byw, neu organeb, yn ffurfio rhan o gadwyn fwyd. Mae hyn yn eich cynnwys chi (felly ceisiwch osgoi ysglyfaethwyr mawr sy’n bwyta cig!). Mae pob cadwyn fwyd yn cychwyn gydag ynni o’r haul – dyma ynni solar. Y cam nesaf bob amser yw planhigyn. Mae planhigion yn cynhyrchu bwyd o ynni’r haul, felly fe’u gelwir yn gynhyrchwyr. Mae pob cam wedi hynny yn anifeiliaid. Mae anifeiliaid yn cael eu bwyd drwy fwyta planhigion neu anifeiliaid eraill, felly fe’u gelwir yn ysyddion. 

Felly, gallwn hefyd ddangos ein cadwyn fwyd fel hyn:

The Royal Society for the Protection of Birds
View at full size

Mae ambell i gadwyn fwyd yn hirach; mae eraill yn eithaf byr. Ond mae’r camau bob amser yn dilyn yr un drefn. Gelwir y camau hyn yn lefelau troffig (neu fwydo).

E-mail a friend  Make a comment   Print me