Parasitiaid
Planhigion neu anifeiliaid sy’n byw y tu mewn i neu ar beth byw arall yw parasitiaid, a chânt eu bwyd ohono tra’i fod yn dal yn fyw. Gelwir yr organeb y maent yn byw arno yn organeb letyol. Nid yw organeb letyol byth yn elwa o barasitiaid. Yn wir, mae rhai parasitiaid yn peri i’w horganebau lletyol farw yn y pen draw. Bywyd ar y tu mewnMae’r llyngyren yn byw yng ngholuddion mamaliaid. Ych a fi! Maent angen dwy organeb letyol i gwblhau eu cylch bywyd. Mae’r un gyntaf, fel llygoden, yn bwyta eu hwyau mewn camgymeriad. Mae’r larfâu yn deor yn ei chorff ac yn byw yno nes bydd anifail arall – fel wenci – yn bwyta’r llygoden. Y wenci fydd yr ail organeb letyol. Yn ei gorff bydd y larfâu yn tyfu’n llyngyr newydd. Fel arfer bydd y wenci yn gallu goroesi gyda llyngyren y tu mewn iddo, ond efallai na fydd mor gryf. Crwydro o le i leMae llawer o anifeiliaid parasitaidd, fel chwain, trogod a llau, yn bwydo ar waed anifeiliaid mwy. Drwy gydiad eu hunain wrth eu horganeb lletyol, maent yn cael pryd parod o fwyd i le bynnag yr aiff yr anifail. Mae ambell i aderyn yn cludo llawer o’r rhain. Mae gwiddon nythod yn byw mewn nythod lle byddant yn sugno gwaed y cywion. Pan fo’r cywion ifanc yn barod i hedfan, mae’r gwiddon yn dringo ar eu cyrff ac yn cael eu cludo i organeb lletyol newydd. Cafwyd hyd i fwy na 5,000 o widdon nythod yn nyth un wennol y bondo! Dwyn bwydMae hyd yn oed ambell i blanhigyn yn barasit. Nid ydynt yn gwneud eu bwyd i gyd eu hunain, fel planhigion eraill. Nid oes gan yr uchelwydd wreiddiau ei hun, felly nid oes modd iddo gael maethion o’r pridd. Yn hytrach, mae’n tyfu ar goed eraill, ac yn sugno bwyd a dwr yn uniongyrchol o’u boncyff. Ond yn wahanol i ambell i blanhigyn parasitaidd, mae uchelwydd yn dal yn wyrdd felly mae’n cynhyrchu bwyd drwy ffotosynthesis. |