Pyramidiau o rifau

Wrth ddilyn cadwyn fwyd, mae’r nifer o anifeiliaid unigol yn lleihau ar bob lefel troffig. Pe baech yn trefnu’r rhifau hyn ar ben ei gilydd, maent yn ffurfio siâp pyramid. Dyma enghraifft o gadwyn fwyd y goedlan.

Pyramid of numbers
View at full size

Mae pob cadwyn fwyd yn ffurfio’r siâp hwn. Mae’n cael ei alw’n byramid o rifau. Mae ganddo fôn llydan o blanhigion (cynhyrchwyr), sy’n cynnal nifer llai o fwytawyr-planhigion (ysyddion cynradd), ac felly ymlaen i fyny’r pyramid, gyda’r rhifau yn mynd yn llai wrth i chi fynd yn uwch. Y rhif lleiaf bob amser yw’r un sy’n dangos yr ysglyfaethwr ar y brig.

Digon i bawb

Mae’r rheswm dros y ffurf pyramid yn syml. Rhaid bod digon o blanhigion yn cynhyrchu bwyd ar y gwaelod, neu fel arall byddai’r gadwyn fwyd gyfan yn dymchwel. Yn uwch, ni all yr un ysglyfaethwr (ysydd) fod mor gyffredin â’i ysglyfaeth, neu byddai’r ddau anifail yn diflannu o’r tir yn fuan iawn. Dyma pam na all y gwalch glas fod yn fwy cyffredin na’r titw tomos las mewn ecosystem a rennir ganddynt.

Magu'n gyflym

Mae adar yn is i lawr y gadwyn fwyd yn cael mwy o gywion, yn gynt, na’r adar yn uwch i fyny. Mae’r titw tomos las yn dodwy deg neu fwy o wyau, ac mae eu cywion yn gadael y nyth wedi pump neu chwe wythnos. Dim ond rhwng pedwar a chwech o wyau mae’r gwalch glas yn eu dodwy, ac mae eu cywion yn gadael y nyth wedi naw neu ddeg wythnos. Erbyn y bydd cywion y gwalch glas wedi deor, mae digon o gywion y titw tomos las i’r rhieni fwydo i’w cywion.

I fyny bo’r nod

Mae planhigion yn atgynhyrchu yn eu miliynau, gan sicrhau bod y pyramid yn cadw ei ffurf. Maent yn gollwng miliynau o hadau – meddyliwch am hadau’r dant y llew – sy’n gwreiddio ym mhob man – ac yn cynnig gwledd barhaol i ysyddion. Mae anifeiliaid sy’n isel ar y gadwyn, fel pryfed neu lyffantod, yn tueddu i ddodwy llawer o wyau. Fel hyn gall digon ohonynt dyfu i fod yn oedolion, er bod miloedd yn cael eu bwyta ar hyd y daith.

E-mail a friend  Make a comment   Print me