Wedi ei greu i fwyta
Mae ymddygiad anifail a siâp ei gorff – yn arbennig ei ên-rannau – yn rhoi cliwiau i chi am ei ddiet. Mae gwyddonwyr yn dosbarthu anifeiliaid yn wahanol fathau yn ôl y bwyd y maent yn ei fwyta. Llysiau bach a mawrGelwir anifeiliaid sy’n bwyta planhigion yn unig yn llysysyddion. Mae corff pob un wedi ei gynllunio ar gyfer ei ddiet. Er enghraifft, mae mandiblau (ceg) lindys yn berffaith ar gyfer cnoi deilen, tra bod gan garw coch gilddannedd cryfion ar gyfer cnoi glaswellt a stumog gyda phedair siambr i’w dreulio. Rhai sy’n cnoi cigGelwir anifeiliaid sy’n bwyta anifeiliaid eraill yn unig yn gigysyddion. Mae ganddynt fedrau ac offer angheuol ar gyfer lladd. Mae pryfed cop yn defnyddio gwe ludiog i ddal pryfed a brathiad gwenwynig i’w lladd. Mae’r carlwm yn dal cwningen yn llechwraidd, ac mae ganddo ddannedd miniog i’w lladd. Cipolwg ar y pig
Bydd cipolwg ar big aderyn yn dweud wrthych beth mae’n ei fwyta. Mae gan adar sy’n bwyta hadau, fel y llinos werdd, big byr a thrwchus ar gyfer gwasgu hadau. Mae gan adar sy’n bwyta pryfed, fel y robin goch, big mwy main ar gyfer dal pryfed. Mae pig hir miniog y glas y dorlan yn berffaith ar gyfer trywanu pysgod, a gall pig miniog a bachog y bwncath rwygo cnawd cwningen yn ddarnau. Rhowch gynnig ar ein gêm ‘Y Bil, Gweinydd, os gwelwch yn dda’ i weld a allwch chi baru gwahanol adar gyda’u bwyd. Y gorau o ddau fydMae ambell i aderyn yn newid ei arferion bwydo wrth i’r cyflenwad bwyd newid. Er enghraifft, gall y titw tomos las fwyta pryfed yn yr haf, aeron yn yr hydref a hadau yn y gaeaf. Gelwir anifeiliaid sy’n bwydo ar blanhigion ac anifeiliaid yn hollysyddion. Yn eu mysg mae chwilod, moch daear ac – ie, dyna chi! – pobl. Mae brân yn aderyn hollysol. Gall ei phig amlbwrpas gasglu ffrwythau, torri wyau, hollti hadau, codi pryfed genwair/mwydod a rhwygo corff anifail marw. |