Ynni ar gyfer byw
Mae pob peth byw yn weithredol. Nid dim ond anifeiliaid yn unig, ond planhigion hefyd. Gall planhigion gau eu petalau, gollwng eu dail, a symud tuag at ddwr neu olau. Er eu bod yn arafach nag anifeiliaid fel arfer, maent yn aml yn tyfu’n llawer cynt na ni – ac mae tyfiant hefyd yn weithgaredd. Yn wir, dyma’r gweithgaredd pwysicaf oll. Daw gweithgaredd o ynni, a daw ynni o’r haul. Mae planhigion yn dal yr ynni hwnnw drwy ffotosynthesis, ac yn dod ag ef i mewn i’r gadwyn fwyd. Ynni symudolYnni yw’r allwedd i gadwyni bwyd. Mewn cadwyn fwyd, nid yw’r un bwyd yn symud yn llythrennol o un peth byw i un arall. Mae’r bwyd yn cael ei droi’n ynni i helpu’r anifail a fu’n ei fwyta i dyfu a chynnal ei gorff ei hun. Y tyfiant hwn sy’n dod yn fwyd i’r ddolen nesaf yn y gadwyn fwyd. Mae’r saethau mewn cadwyn fwyd yn dangos i ba gyfeiriad y mae ynni yn symud. Colli ynniNid yw’r holl ynni a ddaw o olau’r haul yn mynd i’r gadwyn fwyd. Mae llawer ohono’n cael ei ddefnyddio i yrru’r gwynt, y tonnau ac anweddiad dwr. Ond mae’r ynni sydd dros ben yn mynd i blanhigion. Wrth iddo symud ar hyd y gadwyn, defnyddir ychydig bach mwy ar gyfer pob cam. Yn wir, dim ond oddeutu 10% o’u hynni bwyd a drosir gan anifeiliaid i brifiant. Mae’r anifail yn defnyddio’r gweddill i aros yn fyw yn unig. Diwedd y gadwynYn anaml iawn y bydd cadwyn fwyd yn cynnwys mwy na phum dolen. Dyna cymaint a all ynni haul ei yrru drwy greaduriaid byw. Mae hyn yn digwydd oherwydd mae’r rhan fwyaf o ynni wedi ei ddefnyddio erbyn iddo gyrraedd yr un olaf. Fel arfer maent yn diweddu mewn mamal neu aderyn, sydd yn waed cynnes. Mae anifeiliaid gwaed cynnes yn defnyddio llawer o ynni i gynhyrchu digon o wres i gadw eu cyrff yn gynnes ac yn weithredol. |