Skip navigation
RSPB Wildlife ExplorersPlant
Make and do Go back to the RSPB homepage Learn Discover Play Join In
Home > Cymru > Plant! > Dysgu > Cadwyni bwyd > Ynni ar gyfer byw

Ynni ar gyfer byw

Sunflower

Mae pob peth byw yn weithredol. Nid dim ond anifeiliaid yn unig, ond planhigion hefyd. Gall planhigion gau eu petalau, gollwng eu dail, a symud tuag at ddwr neu olau. Er eu bod yn arafach nag anifeiliaid fel arfer, maent yn aml yn tyfu’n llawer cynt na ni – ac mae tyfiant hefyd yn weithgaredd. Yn wir, dyma’r gweithgaredd pwysicaf oll. 

Daw gweithgaredd o ynni, a daw ynni o’r haul.  Mae planhigion yn dal yr ynni hwnnw drwy ffotosynthesis, ac yn dod ag ef i mewn i’r gadwyn fwyd. 

Ynni symudol

Ynni yw’r allwedd i gadwyni bwyd.  Mewn cadwyn fwyd, nid yw’r un bwyd yn symud yn llythrennol o un peth byw i un arall.  Mae’r bwyd yn cael ei droi’n ynni i helpu’r anifail a fu’n ei fwyta i dyfu a chynnal ei gorff ei hun.  Y tyfiant hwn sy’n dod yn fwyd i’r ddolen nesaf yn y gadwyn fwyd. 

Mae’r saethau mewn cadwyn fwyd yn dangos i ba gyfeiriad y mae ynni yn symud.

Moving energy

Colli ynni

Nid yw’r holl ynni a ddaw o olau’r haul yn mynd i’r gadwyn fwyd. Mae llawer ohono’n cael ei ddefnyddio i yrru’r gwynt, y tonnau ac anweddiad dwr. Ond mae’r ynni sydd dros ben yn mynd i blanhigion. Wrth iddo symud ar hyd y gadwyn, defnyddir ychydig bach mwy ar gyfer pob cam. Yn wir, dim ond oddeutu 10% o’u hynni bwyd a drosir gan anifeiliaid i brifiant. Mae’r anifail yn defnyddio’r gweddill i aros yn fyw yn unig. 

Diwedd y gadwyn

Yn anaml iawn y bydd cadwyn fwyd yn cynnwys mwy na phum dolen. Dyna cymaint a all ynni haul ei yrru drwy greaduriaid byw. Mae hyn yn digwydd oherwydd mae’r rhan fwyaf o ynni wedi ei ddefnyddio erbyn iddo gyrraedd yr un olaf.  

Fel arfer maent yn diweddu mewn mamal neu aderyn, sydd yn waed cynnes. Mae anifeiliaid gwaed cynnes yn defnyddio llawer o ynni i gynhyrchu digon o wres i gadw eu cyrff yn gynnes ac yn weithredol.