Dysgu
Os ydych yn gwneud project ysgol - un ai fel myfyriwr, athro, neu riant sy'n helpu plentyn i ddysgu - neu os ydych eisiau dysgu pethau anhygoel am adar a'r amgylchedd, dyma'r adran o'n gwefan i chi. Dylai’r wybodaeth yma helpu gyda phrojectau ysgol ar adar, ac mae’r gweithgareddau yn cysylltu’n uniongyrchol gyda chwricwlwm pynciau unigol, er efallai y byddwch yn gallu eu defnyddio ar draws terfynau pynciau. Mae’r deunydd yn addas ar gyfer pob gwlad yn y DU ac maent ar gael yn y Gymraeg ac yn y Saesneg. Yn ogystal â’r tudalennau gwefan yma, mae gan yr RSPB a’i aelodaeth iau, Fforwyr Bywyd Gwyllt, lawer i’w gynnig i chi yn ‘y byd go iawn’, yn amrywio o drefnu teithiau ysgol i’n gwarchodfeydd natur i’n cystadlaethau blynyddol a chylchgronau penigamp. Mae’n rhoi gwybodaeth ac mae’n llawer o hwyl. Ond cyn i chi ruthro allan i weld adar yn eu cynefin, edrychwch ar weddill yr adran ieuenctid – gallwch ddysgu llawer o’r gemau a’r tudalennau eraill yma hefyd. |