Skip navigation
Home > Cymru > Ymweliadau ysgol

Yr Ystafell Ddosbarth Fyw

Children looking into pond dipping net

Ar dros 40 o safleoedd ar hyd a lled y wlad, mae Ystafell Ddosbarth Fyw’r RSPB yn cynnig y cyfle i ddod â disgyblion yn nes at adar a bywyd gwyllt. Mae pob ymweliad yn cael ei llunio’n ofalus i ysgogi’r disgyblion i gymryd diddordeb yn y byd rhyfeddol o’n cwmpas.

Arweinir eich rhaglen diwrnod-cyfan neu hannerdiwrnod, a gynlluniwyd i ysgogi chwilfrydedd a’r broses o ddarganfod, gan athro maes proffesiynol yr RSPB. Gellir datblygu’r rhaglen ymhellach yn y dosbarth neu’r cartref.

Bydd eich grSp yn cael cyfle i archwilio byd natur drwy astudio’r adar, yr anifeiliaid a’r planhigion ar un o warchodfeydd natur hyfryd yr RSPB neu ar safleoedd detholedig eraill.

Gellir cysylltu pob rhaglen ddysgu gyda phynciau’r cwricwlwm. Mae’r rhaglenni’n adlewyrchu gwahanol arddulliau dysgu, oedran a lefelau’r unigolion neu’r grwpiau sy’n ymweld. Gydag amrywiaeth o bynciau ar gael, gall ymweliadau fod yn fan cychwyn ardderchog ar gyfer dysgu yn y dyfodol neu weithredu fel adolygiad o astudiaethau blaenorol. Bydd yr athrawon maes yn falch o drafod eich anghenion ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod yr ymweliad yn briodol i’ch amcanion dysgu.