Print
Gwlyptiroedd Casnewydd - Llecyn arbennig

Saif Gwlyptiroedd Casnewydd ar gyrion dwyreiniol Dinas Casnewydd ar lan ogleddol aber yr Hafren, ac maent yn cwmpasu 439 hectar.
Dewiswyd y safle er mwyn datblygu mesurau digolledu yn sgil colli fflatiau llaid Bae Caerdydd (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Taf/Elái).
Cyn hynny, roedd y safle yn cynnwys lagwnau storio ar gyfer llwch tanwydd maluriedig o Orsaf Bwer Uskmouth, a thir oedd wedi’i wella’n wael.
Mae aber cyfagos yr Hafren wedi’i ddynodi’n SoDdGA, Ardal Gwarchodaeth Arbennig, safle RAMSAR ac Ardal Cadwraeth Arbennig bosib dan ddeddfwriaeth Ewrop. Mae’r warchodfa’n cynnwys ardaloedd helaeth o iseldir pori corsiog a brwyn sy’n ffurfio SoDdGA Nash, Goldcliffe a Whitson.
Y weledigaeth
Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) sy’n berchen ar y warchodfa a’i rheoli. Mae CCGC wedi ffurfio partneriaeth gyda Chyngor Dinas Casnewydd a’r RSPB i ddatblygu cyfleusterau ar y safle ar gyfer ymwelwyr ac at ddibenion addysgol.
Mae arian wedi’i sicrhau ar gyfer canolfan ymwelwyr ac addysg amgylcheddol newydd, a fydd yn cael ei rheoli gan yr RSPB ac yn agor i’r cyhoedd yn 2007. Bydd y ganolfan newydd yn cynnig amrywiaeth o brofiadau i ymwelwyr o bob oed, o adaregwyr profiadol i’r rhai sydd ond eisiau mynd am dro mewn llecyn hyfryd.
Bydd ysgolion a cholegau yn gallu manteisio ar gyfleusterau addysg amgylcheddol pwrpasol, a bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau diod yn y caffi neu bori yn siop yr RSPB.
Last modified: 03 March 2006